‘Angen clir i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n gallu astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Cymru' meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 29/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae angen clir i gynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n ennill lleoedd yn ysgolion meddygol Cymru, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae hyn yn cynnwys galwad i gynyddu nifer y lleoedd i israddedigion yng Nghymru, gan gynnwys yn y Gogledd. Mae hefyd yn cynnwys galwad i brifysgolion Cymru wneud mwy i sicrhau bod myfyrwyr o Gymru sy'n ennill y graddau angenrheidiol yn cael y lleoedd hynny. 

Mae' Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi bod yn edrych ar recriwtio meddygol a'r camau y gellir eu cymryd i lenwi swyddi gwag ar draws y gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

 
 

Darllen yr adroddiad llawn:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Adroddiad ar ymchwiliad i recriwtio meddygol

(PDF, 1 MB)


Mae'r Pwyllgor yn pryderu am y niferoedd isel, a'r gostyngiad yn y niferoedd hynny, ymhlith myfyrwyr yn byw yng Nghymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth. Er i'r ffigurau wella rhywfaint yn ystod cylch ceisiadau 2017, mae nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru yn dal i fod gryn dipyn yn is na rhannau eraill o'r DU.

Testun pryder penodol hefyd yw nifer fach y myfyrwyr o Gymru sy'n sicrhau lleoedd mewn ysgolion meddygaeth yng Nghymru. Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried y dystiolaeth y clywodd y Pwyllgor fod tuedd i fyfyrwyr, ar ôl cymhwyso, aros yn yr ardal lle'r aethant i astudio yn wreiddiol.

Mae'r Pwyllgor eisiau i Lywodraeth Cymru a Deoniaeth Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol ar hyn o bryd am ddarparu hyfforddiant meddygol yng Nghymru, ddatblygu a chytuno ar gynigion ar gyfer cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi, gan dargedu meysydd pwysau allweddol.

"Os ydym am fynd i'r afael â'r problemau presennol o ran recriwtio a chadw staff, rydym yn credu bod achos clir dros gynyddu capasiti ysgolion meddygol Cymru a sicrhau bod y disgyblion galluog sydd gennym yng Nghymru yn cael eu cefnogi i sicrhau'r lleoedd hynny," meddai Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Mae nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar y broses o recriwtio a chadw staff meddygol.

"Clywsom ba mor bwysig i staff a'u teuluoedd yw cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys bod o fewn cyrraedd da i ysgolion, cymunedau a bywyd cymdeithasol, a sefydlogrwydd lleoliadau hyfforddiant.

"Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddenu a hyfforddi mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, ac yn enwedig yr ymgyrch ddiweddar Hyfforddi.Gweithio.Byw, sy'n hyrwyddo'r cysyniad ehangach o'r hyn sydd gan GIG Cymru a Chymru fel gwlad i'w gynnig.

"Fodd bynnag, mae rhagor o waith i'w wneud i fynd i'r afael â'r amrywiaeth eang o ffactorau a allai ddenu staff meddygol newydd i Gymru a chadw'r gweithlu presennol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Ysgrifennydd y Cabinet drafod a chytuno ar gynlluniau gyda'r ysgolion meddygaeth a chlinigol yng Nghymru er mwyn gwella a datblygu hyfforddiant meddygol i israddedigion yng Nghymru. Dylai'r cynllun hwn gynnwys cynnydd yn nifer y lleoedd i israddedigion mewn ysgolion meddygaeth, a chynnydd yng nghanran y lleoedd hynny a sicrheir gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru;
  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cynllun eglur i ddatblygu mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant meddygol i israddedigion yn y Gogledd. Dylai hyn gynnwys canolfan newydd ar gyfer addysg feddygol ym Mangor. Mae'r Pwyllgor yn dweud y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi penderfyniad o fewn y terfynau amser y mae wedi'u gosod, sef haf 2017;
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Ddeoniaeth (neu unrhyw gorff sy'n ei holynu) a'r ysgolion meddygaeth yng Nghymru i sicrhau cynnydd cyson yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais am le yn yr ysgolion meddygaeth yng Nghymru; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Ddeoniaeth (neu unrhyw gorff sy'n ei holynu) ac ysgolion meddygaeth yng Nghymru i ddatblygu rhaglen o gymorth a chyngor ar gyfer disgyblion yng Nghymru, ar drefniadau derbyn a chyfweld ysgolion meddygaeth.

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.