Mae angen dull ar ei newydd wedd i ail-edrych ar sut i ddileu Twbercwlosis mewn Gwartheg o wartheg yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn argymell dull rhanbarthol o fynd i'r afael â TB. Dylai profion gwyliadwriaeth ar fuchesi a masnachu yn seiliedig ar risg fod ymysg y dewisiadau i'w hystyried.
Mae'r Pwyllgor hefyd am weld dyddiad targed yn cael ei osod ar gyfer pryd y bydd Cymru yn gwbl rydd o TB. Yn wahanol i Loegr, Iwerddon a Seland Newydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi pennu amserlen ar gyfer dileu TB o'r wlad.
Cafodd rhaglen ddileu newydd gan Lywodraeth Cymru ei chroesawu gan aelodau'r Pwyllgor a oedd hefyd yn cytuno gyda chynnig i ddechrau difa moch daear mewn buchesi ag achosion parhaus o TB.
Ond, rhybuddiodd y Pwyllgor, rhaid i hyn gael ei fonitro a'i adolygu'n wyddonol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio - os na, bydd angen stopio neu newid yr arfer hwn. Rhaid i'r dystiolaeth a gasglwyd hefyd fod ar gael i'w hadolygu gan gymheiriaid annibynnol.
"Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi edrych ar y strategaethau sy'n cael eu defnyddio yn y wlad hon ac ar draws y byd ac mae angen i ni drechu'r clefyd yn seiliedig ar y dystiolaeth orau o'r hyn sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r broblem TB mewn gwartheg yng Nghymru," meddai Jenny Rathbone AC, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor.
Mae TB mewn gwartheg yn broblem gostus, ddygn a rhwystredig i'r gymuned amaethyddol yng Nghymru.
"Rydym am weld Cymru'n cael ei datgan yn wlad sy'n rhydd o TB cyn gynted ag y bo modd, ond yn cydnabod bod lefel y cydweithrediad sydd ei angen i gyrraedd yno yn sylweddol.
“Daethom i'r casgliad bod angen strategaeth ar ei newydd wedd sy'n cynnwys dull rhanbarthol at ddileu TB, cyfyngiadau o ran symud ar fuchesi sydd wedi'u heintio a masnachu yn seiliedig ar risg ymhlith opsiynau eraill.
“Mae angen hefyd i gadw llygad barcud ar reoli buchesi godro mwy o faint ac unrhyw gyswllt gyda'r slyri a gynhyrchir ganddynt."
Byddai dull rhanbarthol yn gweld rhannau o Gymru yn cael eu categoreiddio yn ardaloedd risg uchel, canolig neu isel â gwahanol gyfyngiadau ar gyfer pob gradd.
Gwnaeth masnachu yn seiliedig ar risg gynorthwyo â dileu TB yn Awstralia, tra bod cynllun tebyg yn Seland Newydd yn cael ei ddefnyddio ar sail wirfoddol.
Codwyd y mater o iawndal, gan gynnwys ei gost, hefyd yn ystod yr ymchwiliad. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae tua £150 miliwn wedi cael ei dalu i ffermwyr y mae eu hanifeiliaid wedi cael eu difa trwy'r rhaglen i ddileu TB.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig lleihau'r uchafswm mae'n ei thalu mewn iawndal o £15,000 i £5,000. Mae rhan o'r rhesymeg y tu ôl i'r gostyngiad yn gysylltiedig â'r disgwyl y bydd cyllid Ewropeaidd yn dod i ben, sydd ar hyn o bryd yn werth £2-3 miliwn y flwyddyn.
Dywedodd Ms Rathbone:
"Rydym wedi clywed gan ffermwyr am gost y rhaglen brofi a'r gofid y mae hyn yn ei achosi pan fydd yn rhaid difa anifeiliaid.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod swm rhesymol yn cael ei dalu i ffermwyr fel iawndal pan fydd hyn yn digwydd.
"Byddwn yn adolygu'r polisi newydd wedi iddo fod ar waith am 12 mis ac i wneud yn siŵr mai dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod Cymru yn rhydd o TB."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
- Dylai Llywodraeth Cymru bennu dyddiad targed cenedlaethol i Gymru fod yn swyddogol glir o TB ac egluro’r broses ar gyfer cyflawni hyn;
- Mae’r Pwyllgor yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i hybu trefniadau Prynu Gwybodus, sef masnachu yn seiliedig ar risg. Dylai system fasnachu yn seiliedig ar risg gael ei chyflwyno’n wirfoddol i ddechrau yn y diwydiant a’r marchnadoedd da byw. Dylid adolygu’r system yn gyson ac, os bydd angen, dylid ei gwneud yn orfodol; a
- Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid a geir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar gyfer profion TB buchol a mesurau eraill, yn cael ei warantu o fewn cyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.