Angen ‘herio a chefnogi ’ er mwyn cynorthwyo'r GIG yng Nghymru i gyflawni ei gyfrifoldebau ariannol

Cyhoeddwyd 22/02/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen ‘herio a chefnogi ’ er mwyn cynorthwyo'r GIG yng Nghymru i gyflawni ei gyfrifoldebau ariannol

22 Chewfror 2013

Dylid mabwysiadu dull ar gyfer ‘herio a chefnogi ’ er mwyn cynorthwyo sefydliadau'r GIG yng Nghymru i ddiogelu eu dyfodol ariannol yn yr hirdymor, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod ymdrechion sylweddol i wella rheolaeth ariannol wedi bod yn y GIG yng Nghymru, a bod arbedion sylweddol yn deillio o hynny.

Ond canfu'r Pwyllgor hefyd bod dulliau llunio rhagolygon ariannol rhai byrddau iechyd lleol yn ymddangos fel pe baent yn afrealistig ac yn rhy uchelgeisiol, tra bod eraill wedi pennu targedau arbed heb nodi strategaeth realistig ar gyfer cyflawni’r targedau hynny.

Mae aelodau'r Pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gynhyrchu cyllideb lawn i adennill costau cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, a bod cynlluniau arbed cadarn a chynhwysfawr yn cefnogi'r cyllidebau hynny.

Argymhelliad arall yw bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid rhoi hyblygrwydd i sefydliadau'r GIG i wneud defnydd mwy effeithiol o arian dros y blynyddoedd ariannol.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae'r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd yn mynd drwy gyfnod o newid na welwyd mo'i debyg o'r blaen.

“Mae byrddau iechyd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd wrth gynnal cydbwysedd rhwng safonau gofal o safon uchel a chyfrifoldebau ariannol.

“Mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch rhai o'r rhagolygon a welsom yn ystod ein hymchwiliad, sy'n ymddangos fel pe baent yn afrealistig ac yn rhy uchelgeisiol.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio cynigion o'r fath yn fanwl iawn, a chaniatáu ar yr un pryd i fyrddau iechyd fod yn hyblyg wrth ddefnyddio eu harian yn fwy effeithiol dros y blynyddoedd ariannol.”

Mae'r adroddiad yn cynnwys 12 argymhelliad gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gynhyrchu cyllideb lawn i adennill costau cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, a bod cynllun arbedion a chynllun cadarn a chynhwysfawr ar gyfer y gweithlu yn cefnogi'r cyllidebau hynny, sydd wedi'i broffilio'n briodol;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi her gadarn i gyrff y GIG wrth gynllunio a chyflawni eu cynlluniau arbedion ariannol, er mwyn sicrhau bod ffocws ar gyflawni arbedion cynaliadwy drwy'r flwyddyn, yn hytrach nag ar arbedion anghylchol tuag at ddiwedd pob blwyddyn ariannol; a

  • Pan fo'n briodol, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod arian broceriaeth ar gael i fyrddau iechyd lleol fel cam cyfamserol i gefnogi hyblygrwydd diwedd blwyddyn. Dylid atal trefniadau broceriaeth pan fydd ateb deddfwriaethol mwy parhaol ar waith i ddatrys hyblygrwydd diwedd blwyddyn.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.