Angen monitor annibynnol i asesu a yw’r stoc tai cymdeithasol yn bodloni safonau sylfaenol

Cyhoeddwyd 12/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen monitor annibynnol i asesu a yw’r stoc tai cymdeithasol yn bodloni safonau sylfaenol

12 Medi 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn argymell bod gwiriad annibynnol, allanol yn cael ei sefydlu i gadarnhau a yw landlordiaid yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru i wella ansawdd eiddo tai cymdeithasol yng Nghymru.

Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’r casgliad bod absenoldeb gwaith monitro o’r fath yn golygu ei bod yn bosibl nad yw data cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio ar hyn o bryd, na rhagolygon ar gyfer cydymffurfio yn y dyfodol, yn ddigon dibynadwy.

Cafodd Safon Ansawdd Tai Cymru ei chyflwyno yn 2002 fel targed 10 mlynedd i sicrhau bod tai cymdeithasol ledled y wlad:

  • mewn cyflwr da;

  • yn ddiogel;

  • yn ddigon cynnes, yn rhad ar danwydd ac wedi’u hinsiwleiddio’n dda;

  • yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern;

  • yn cael eu rheoli’n dda (i’w rhentu);

  • mewn mannau deniadol a diogel; a

  • chymaint â phosibl, yn addas i anghenion penodol y teulu (er enghraifft yn addas i anableddau penodol).

Ond canfu’r Pwyllgor bod cyflenwad tai Cymru, a oedd yn cynnwys tua 221,000 o gartrefi yn 2010, ymhell o fodloni’r safonau hyn. Digwyddodd y methiant hwn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei dyddiad terfynol ar gyfer bodloni’r safonau sylfaenol i fis Mawrth 2013.

Ar ben hynny, gan nad oes unrhyw gorff annibynnol yn monitro’r gwaith o gymhwyso’r safonau, a’i fod yn agored i gael ei ddehongli mewn modd goddrychol, roedd y Pwyllgor yn pryderu na fyddai hunan-gydymffurfiaeth y landlordiaid â’r safonau yn hollol ddibynadwy.

Mae canfyddiadau’r Pwyllgor yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, sef ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, "Mae ansawdd y data o ran sefydlu ble yn union yr ydym mewn cysylltiad â gweithredu Safon Ansawdd Tai Cymru yn peri pryder, a rhaid mynd i’r afael â gwirio cynnydd yn annibynnol."

"Naw mis ar ôl cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, er bod peth cynnydd wedi cael ei wneud, ymddangys bod llawer mwy i’w wneud os ydym am gyrraedd y targed y mae angen mawr amdano o ran cael tai safonol i Gymru gyfan."

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru â Thrysorlys Ei Mawrhydi ynghylch diwygio’r System Gyfrif Refeniw Tai, lle mae miliynau o bunnoedd o arian awdurdodau lleol Cymru yn cael eu talu i gronfa ganolog y DU bob blwyddyn.

Mae rhai cynghorau yn Lloegr wedi gallu dewis gadael y system, ond canfu’r Pwyllgor bod y trafodaethau yng Nghymru wedi bod yn araf iawn.

Dywedodd Mr Millar, "Mae’r Pwyllgor yn cydnabod pa mor gymhleth yw’r trafodaethau hyn, ond mae hefyd yn pryderu nad oes digon yn cael ei wneud i symud pethau yn eu blaenau."

"Roedd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth eisoes wedi datgan ei fod yn gobeithio y gallai cyfraniad Cymru i’r System Gyfrif Refeniw Tai ddod i ben cyn bo hir, ond hoffem pe gallai ddatgelu yn union beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd, a pha mor agos yw Cymru at gael cytundeb."