Anghydfodau staffio a dadlau o fewn bwrdd draenio mewnol oherwydd trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd gwael - yn ôl Pwyllgor Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Anghydfodau staffio a dadlau o fewn bwrdd draenio mewnol oherwydd trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd gwael - yn ôl Pwyllgor Cynulliad

18 Hydref 2013

Achoswyd methiannau mewn perthnasau gwaith, anghydfodau o ran staffio a dadlau mewnol o fewn Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg oherwydd llywodraethu ac atebolrwydd gwael yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arferion gwael y Bwrdd fel enghraifft i rybuddio sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i'w osgoi.

Mae hefyd yn argymell cyhoeddi canllawiau clir ar atebolrwydd Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru.

Mae gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg gyllideb sy'n fwy na miliwn o bunnoedd ac mae'n gyfrifol am reoli draenio ar Wastadeddau Gwent rhwng Cas-gwent a Chaerdydd. Mae'r ardal yn lleoliad i gannoedd o filoedd o gartrefi a busnesau ar dir isel wrth ymyl Aber Afon Hafren.

Ond, canfu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o gyfrifon 2010-11 y Bwrdd nad oedd ganddo fawr ddim o ran cyfansoddiad wedi'i gymeradwyo a bod ei reolau sefydlog, sef y rheolau y dylid eu defnyddio i lywodraethu'r Bwrdd, wedi hen ddarfod. Canfu'r adroddiad hefyd anghysondebau o ran sut roedd rhai o'r uwch staff wedi dyfarnu codiadau cyflog i'w hunain ac i eraill.

Bu'r Bwrdd ar deithiau i'r Eidal, Gogledd Iwerddon a'r Iseldiroedd heb achos busnes, neu achos busnes gwan iawn, i gyfiawnhau'r angen. Cafodd braidd ddim cofnod ei gadw o weithgareddau'r Bwrdd ar y teithiau na thystiolaeth o'r hyn a ddysgwyd o'r ymweliadau.

Penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymchwiliad ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru gyhoeddi adroddiad yn rhoi manylion am y diffygion gyda rheoli a rheolaeth fewnol ym Mwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg ac yn honni bod y Bwrdd wedi gweithredu'n anghyfreithlon ar adegau o ganlyniad i'r methiannau hynny.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg yn gyfrifol am ddraenio ardal strategol hanfodol o Gymru sy'n cynnwys seilwaith pwysig, busnesau, tir ffermio a degau o filoedd o gartrefi.

“Mae'r Pwyllgor o'r farn y gallai llywodraethu, atebolrwydd a thryloywder gwael y Bwrdd fod wedi peryglu hynny oll.

“Mae'r cyfan yn enghraifft berffaith o sut i beidio â rheoli sefydliad sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus.

“Yn anffodus, nid yw o reidrwydd bod y problemau yng Nghil-y-coed a Gwynllwg yn unigryw, felly dyna pam rydym yn argymell i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r enghraifft hon i atgoffa cyrff cyhoeddus eraill o'u cyfrifoldebau a'r angen i gael trefniadau llywodraethu da a chyfeiriad strategol clir.”

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod, ers yr archwiliad o gyfrifon 2010-11, bod newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i staff a gweithrediadau'r Bwrdd ac nad yw canfyddiadau'r adroddiad yn adlewyrchiad o'r tîm rheoli presennol.

Mae 12 argymhelliad yn yr adroddiad, yn cynnwys:

  • Argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau clir ar atebolrwydd Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru;

  • Argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn adolygu trefniadau llywodraethu Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru a bod system o fonitro trefniadau llywodraethu yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau eu bod yn dryloyw ac yn cyd-fynd â'r arfer gorau mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus a bod dogfennau a chynlluniau priodol ar waith, ac;

  • Argymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn ailgyhoeddi canllawiau ar Lywodraethu, gan dynnu sylw at y problemau a gafwyd ym Mwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllwg er mwyn dangos yr hyn all fynd o'i le.

Beth yw bwrdd draenio?

Cyrff statudol annibynnol yw Byrddau Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf o dan Ddeddf Draenio Tir 1991. Maent yn gyfrifol am ddraenio tir mewn ardaloedd yng Nghymru a Lloegr (a elwir yn rhanbarthau yn aml) lle y ceir anghenion penodol o ran draenio.

Mae yna dri Bwrdd Draenio Mewnol sy'n gweithredu'n bennaf neu'n gyfan gwbl yng Nghymru, sef:

  • Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllwg, sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru;

  • Bwrdd Draenio Mewnol Gwy Isaf, sydd yn bennaf yng Nghymru (ac yn rhannol yn Lloegr); a

  • Bwrdd Draenio Mewnol Powysland, sydd yn bennaf yng Nghymru (ac yn rhannol yn Lloegr).

Mae Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllwg (y Bwrdd Draenio) yn gyfrifol am reoli'r system ddraenio ar Wastadeddau Gwent o ddydd i ddydd. Ardal o dir rhwng Cas-gwent a Chaerdydd yw Gwastadeddau Gwent; i'r de o draffordd yr M4 wrth ymyl Aber Afon Hafren. Mae'n ardal lle y byddai tir amaethyddol, tir masnachol a thir preswyl gwerthfawr yn fwy agored i'r perygl o lifogydd o bryd i'w gilydd, pe na bai system ddraenio briodol ar waith.

Ariennir gwaith y Bwrdd Draenio o'r ffynonellau canlynol:

  • ardollau a godir ar awdurdodau lleol Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd (sef 72% o arian cyllid y Bwrdd Draenio ar hyn o bryd);

  • gwaith draenio preifat a gyflawnir ar gais ar ran perchenogion tir a sefydliadau eraill (18%);

  • mathau amrywiol eraill o incwm (8%); ac

  • ardrethi sy'n daladwy gan berchenogion tir sydd ag eiddo ar Wastadeddau Gwent (2%).