#BIMR2014 - Comisiynydd y Cynulliad yn annerch sesiwn ar ddwyieithrwydd mewn seneddau

Cyhoeddwyd 23/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

#BIMR2014 - Comisiynydd y Cynulliad yn annerch sesiwn ar ddwyieithrwydd mewn seneddau

23 Mai 2014

Bydd Comisiynydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas AC, yn annerch sesiwn lawn yng nghynhadledd Ynysoedd Prydain a Rhanbarth Môr y Canoldir (BIMR) yn siambr y Senedd ar 28 Mai.

Y sesiwn hon, sy'n dwyn y teitl, “Dwyieithrwydd a Rôl Ieithoedd Swyddogol yn y Senedd”, yw un o brif themâu'r gynhadledd y bydd 60 o seneddwyr o bob rhan o'r Gymanwlad yn bresennol ynddi.

Caiff Cynhadledd Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir (BIMR) Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ei chynnal yn y Senedd dros gyfnod o ddeuddydd.

Bydd seneddwyr o ddeddfwrfeydd pell fel Cyprus, Ynysoedd Falkland, St Helena a Malta, yn ogystal â chynrychiolwyr o seneddau eraill y DU, yn bresennol i geisio rhannu arfer gorau.

Yn ystod y sesiwn, bydd Rhodri Glyn Thomas yn dweud ei bod "Yn iawn i Gynulliad Cenedlaethol fod yn ganolbwynt bywyd cenedlaethol Cymru."

"Rhaid sicrhau mai rhan o'r ymrwymiad hwnnw yw rhoi lle canolog i'r iaith Gymraeg ym mywyd cyhoeddus Cymru ac yn y gwaith o lywodraethu Cymru.

"Credaf fod Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 wedi gwneud hynny.

"Yn y pen draw, mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i alluogi'r cyhoedd ac Aelodau'r Cynulliad i ymgysylltu â'u Cynulliad yn Gymraeg ac yn Saesneg gan fod y ddwy iaith yn gyfartal.

Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn diffinio'r safonau a'r gwasanaethau y gall Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd eu disgwyl gennym ni dros oes y Cynllun.

Yr egwyddor bwysig sydd wrth wraidd yr holl Gynllun yw bod ieithoedd swyddogol Cymru – Cymraeg a Saesneg – yn perthyn i ni i gyd.

Ym mis Chwefror eleni, bu'r Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu penllanw partneriaeth adeiladol rhwng y Cynulliad a Microsoft i ychwanegu’r Gymreg at system cyfieithu peirianyddol Microsoft, ac mae ar gael am ddim yn awr i holl ddefnyddwyr Microsoft.

Mae'r system cyfieithu peirianyddol wedi'i gwneud yn llawer iawn haws i ni weithio'n ddwyieithog ar bob lefel yn y Cynulliad.

"Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran darparu cymorth arloesol sydd wedi'i deilwra ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, sy'n eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg," ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas.

"Er enghraifft, rydym yn awr yn cynhyrchu rhestrau dwyieithog o dermau anghyfarwydd a ddefnyddir mewn Biliau ac mae mwy o bapurau briffio'n cael eu datblygu yn y ddwy iaith yr un pryd - tasg enfawr, o ystyried nifer y dogfennau swyddogol a gyhoeddir gan y Cynulliad.

"Mae'r system hefyd wedi gwella ein gallu i ymateb yn gyflymach i'r cyhoedd ac i'n gilydd yn y ddwy iaith.

Dywedodd Joyce Watson AC, Cadeirydd cangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad: "Fel rhywun sy'n dod o deulu sy'n siarad Cymraeg ond na chafodd ei hannog i siarad yr iaith oherwydd profiadau fy nhad, rwy'n deall pa mor bwysig yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ganolog i holl fusnes y Cynulliad.

"Mae gan y Gymraeg a'r Saesneg yr un statws erbyn hyn o ganlyniad i'r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, ond gallwn ddysgu oddi wrth bolisïau iaith seneddau eraill.  Dyna yw hanfod y drafodaeth hon a gobeithio y bydd nid yn unig yn caniatáu i eraill ddysgu drwy'n hesiampl ni, ond i'r Cynulliad hefyd ddysgu gan eraill."

Gellir gweld y sesiwn ar Senedd TV drwy glicio yma.