Cefnogaeth pwyllgor y Cynulliad i gyfraith newydd i wella gwasanaethau iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 02/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cefnogaeth pwyllgor y Cynulliad i gyfraith newydd i wella gwasanaethau iechyd meddwl

2 Gorffennaf 2010

Mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi cefnogi cyfraith newydd a fydd yn gwella gwasanaethau ar gyfer y rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl.

Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi, o ran egwyddor, Fesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).

Roedd aelodau’r Pwyllgor, fodd bynnag, yn unfryd yn eu pryder nad oedd y ddeddfwriaeth yn ymestyn i gynnwys pobl ifanc ac maent wedi galw ar y Gweinidog i ddiwygio’r ddeddfwriaeth i roi sylw i’r mater hwn.

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn unfryd ei farn bod hon yn ddeddfwriaeth gadarn.”

“Credwn y bydd yn helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol i’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl yn gynt yn eu salwch, gan roi iddynt well siawns o wella’n llwyr.

“Fodd bynnag, roedd yr aelodau’n pryderu nad oedd y ddeddfwriaeth yn ymestyn i gynnwys pobl ifanc a chlywsom dystiolaeth helaeth yn galw am hynny.”

Bydd y Mesur yn:

  • darparu gwasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl sylfaenol yn lleol yn gynharach na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd i unigolion sy’n cael problemau iechyd meddwl, gyda’r nod o leihau’r perygl o ddirywiad pellach mewn iechyd meddwl, ac mewn rhai achosion, gostwng yr angen am driniaeth ddilynol fel cleifion mewnol a hyd yn oed y posibilrwydd o gadw gorfodol mewn sefydliad iechyd meddwl;

  • sicrhau bod gan bob unigolyn a gaiff ei dderbyn i’r gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru gydgysylltydd gofal pwrpasol a’i fod yn cael cynllun gofal a thriniaeth, a bod defnyddwyr gwasanaethau a gaiff eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn cael mynediad i’r gwasanaethau hynny pan fyddant yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio o bosibl;

  • ymestyn categorïau cleifion sy’n gymwys i gael darpariaeth eiriolaeth iechyd meddwl statudol y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol ar hyn o bryd.

Adroddiad