Gofalwr a phlentyn yn gafael dwylo

Gofalwr a phlentyn yn gafael dwylo

Cwmwl o ansicrwydd ynghylch cynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal

Cyhoeddwyd 11/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2024   |   Amser darllen munud

Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n galetach o lawer i roi sicrwydd i ddarparwyr gofal ynghylch cynlluniau i ddileu elw o ofal plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. 

Canfu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd fod angen i gwmnïau sy’n darparu gofal yng Nghymru ar hyn o bryd gael cynnig manwl o ganllawiau a chymorth gan Lywodraeth Cymru ar frys os ydynt am gael eu darbwyllo i symud i fodel di-elw. Hefyd, mae angen i awdurdodau lleol, a fydd â rôl hollbwysig wrth gyflawni’r polisi hwn, gael ymrwymiad clir o ran cyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf o leiaf.

Heb y sicrwydd hwn gan Lywodraeth Cymru, ofnir mai’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas fydd yn teimlo effeithiau gwaethaf y newid. 

Heriau sylweddol o ran gweithredu’r Bil

Yn ei adroddiad ar ei waith craffu ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), daeth y Pwyllgor i farn mwyafrif ar egwyddorion allweddol y Bil; un o'r rhain yw atal darparwyr preifat rhag gallu gwneud elw wrth ddarparu gofal i blant a phobl ifanc. Mae’n argymell bod y Senedd yn cefnogi’r Bil pan fydd yn wynebu pleidlais Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Hydref.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad craffu a gyhoeddwyd heddiw, ddydd Gwener 11 Hydref, yn nodi 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru sy’n tynnu sylw at yr heriau sylweddol o ran gweithredu’r Bil, a’r angen i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. 

Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“O’r dystiolaeth a glywsom ni gan bobl ifanc, darparwyr gofal ac awdurdodau lleol, mae rhywfaint o bryder ynghylch y newidiadau mawr a gynigir yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Er bod y mwyafrif yn cefnogi’r egwyddor o symud i system ddi-elw, nid yw realiti’r cyfnod pontio yn hawdd nac yn syml.

“Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bryderon y rhai sy’n gweithio mewn system sydd eisoes dan bwysau, a lleisiau pobl ifanc sy’n gwybod sut brofiad yw bod mewn sefyllfa lle mae angen cymorth. Fe wnaethon nhw ddweud yn glir wrthym ni beth maen nhw ei eisiau - cael eu trin â pharch, aros yn agos at bobl maen nhw'n eu hadnabod, a bod gyda phobl sy'n gofalu amdanyn nhw fel petaen nhw’n perthyn. Rhaid peidio â pheryglu hyn.

“Mae mwy nag un plentyn ym mhob cant o blant yng Nghymru bellach mewn gofal. Rhaid i’w hanghenion nhw fod yn ganolog i unrhyw broses ddiwygio sy’n mynd drwy’r Senedd. Er bod yr uchelgais yn glir, nid yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud iddo weithio yn glir.”

Ddim am gael eu hysbysebu gyda phris

Pobl ifanc ar ran Voices from Care Cymru yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor

Dywedodd pobl ifanc, gyda chefnogaeth Voices from Care Cymru, wrth y Pwyllgor am eu barn ynghylch y cynlluniau i ddileu elw o’r system. Maent yn poeni am beth fydd yn digwydd os bydd rhai cwmnïau'n rhoi'r gorau i ddarparu gofal ac yn gadael.  

Rowan Gray: “Rwy’n cytuno â’r Bil—rwy’n cytuno’n llwyr—ond fy mhryder mwyaf, os bydd yn cael ei atal, yw bod yr holl gwmnïau hyn yn mynd i roi’r gorau i gynnig gwasanaeth a symud rhywle arall yn y pen draw, gan nad ydyn nhw bellach yn gallu gwneud elw oddi wrthym ni, ac mae hynny'n mynd i achosi llawer o broblemau i'r holl blant sy'n cael gofal gan yr holl gwmnïau gwahanol hyn.”

Nid yw pobl ifanc bob amser yn gwybod ai lleoliad er elw ynteu lleoliad nid-er-elw ydyw. Mae plant mewn gofal am i’r bobl sy’n gofalu amdanynt eu trin nhw fel petaent yn perthyn. Nid ydynt “am gael eu hysbysebu gyda phris”.

Elliot James: “Datgelodd fy ngweithiwr cymdeithasol yn ddiweddar, ar gyfer lleoliad preswyl safonol heb unrhyw ymddygiadau tariff uchel, fod y cwmni sy’n gofalu am y plentyn yn cael ei dalu £5,000 yr wythnos. Pe bai £3 o elw yn cael ei gymryd am bob £10, mae hynny’n £1,500 yr wythnos sydd wedi’i dynnu oddi ar y person ifanc hwn, ar gyfer y cymorth.”

Maent yn dymuno bod yn agos at bobl maent yn eu hadnabod, aros yn yr un ysgol, a bod gyda phobl ofalgar. Maent am deimlo cariad a hoffter tuag atynt, er mwyn gallu meithrin ymddiriedaeth a pherthnasau iach.

Joanne Griffith: “Mae angen lleoliad arnon ni lle rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu ei alw’n gartref, ein bod ni’n gallu ymddiried yn y gofalwyr maeth, ein bod ni’n gallu datblygu’r berthynas yna gyda nhw, ac mae hyd yn oed gallu cael cofleidiau ar leoliadau maeth yn hynod bwysig, oherwydd mae angen i ni ddysgu meithrin perthynas iach o'n cwmpas.”

Mwy am y stori hon

Darllenwch yr adroddiad

Gwyliwch bobl ifanc ar ran Voices from Care Cymru yn rhannu eu barn gyda'r Pwyllgor