Nid yw’n glir sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei Chynllun Iechyd Menywod hirddisgwyliedig, gyda dim ond £3 miliwn wedi’i ddyrannu ar ei gyfer yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26.
Mae’r cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer sefydlu hybiau iechyd menywod mewn byrddau iechyd ledled Cymru. Fodd bynnag, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn pryderu nad yw’n ddigon i gyrraedd nodau uchelgeisiol y cynllun.
Yn ystod ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, cododd y Pwyllgor gwestiynau ynghylch y cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y hybiau iechyd menywod, ac mae’n galw am eglurder ynghylch y rôl y byddant yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â materion iechyd menywod. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fodel ariannu cynaliadwy i sicrhau y gall y Cynllun Iechyd Menywod sicrhau canlyniadau hirdymor.
Dywed Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:
“Dro ar ôl tro yn ystod ymchwiliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor hwn, rydym wedi clywed am yr heriau a wynebir gan fenywod sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd; sut y methwyd diagnosis a sut y gwrthodwyd symptomau fel hysterig neu oherwydd trothwy poen isel. A dro ar ôl tro cawsom wybod y byddai'r Cynllun Iechyd Menywod yn dod â'r rhwystrau hyn i ben. Nawr ei fod yma, nid yw'n glir o hyd sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud iddo weithio.
“O ystyried maint y dasg yn y maes hwn rydym yn bryderus nad yw’r £3 miliwn a neilltuwyd i’r diben hwn yn ddigonol. Yn ddim ond cyfran fach o’r gyllideb iechyd gyffredinol, mae’r cyllid hwn yn llai na’r hyn sydd ei angen i fynd i’r afael yn ystyrlon ag anghenion iechyd menywod ledled Cymru.
“Er bod sefydlu hybiau iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd yn gam cadarnhaol, ymddengys bod y ffocws yn canolbwyntio’n fawr ar iechyd gynaecolegol, heb ddigon o sylw i faterion ehangach fel cau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau.”
Bydd y Senedd gyfan yn trafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 brynhawn ddydd Mawrth, 4 Chwefror.
Mae materion eraill a godwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys:
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Bydd cynnydd Llywodraeth y DU yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr o 13.8% i 15%, a gostwng y trothwy atebolrwydd fesul cyflogai yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr iechyd a gofal yn y sector annibynnol a’r trydydd sector. Mae'r rhain yn cynnwys hosbisau ac 80% o ddarparwyr gofal cymdeithasol.
Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Rydym yn hynod bryderus ynghylch y newidiadau arfaethedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â gallu darparwyr iechyd a gofal y sector annibynnol a’r trydydd sector i barhau i ddarparu gwasanaethau, a’r pwysau canlyniadol a fydd yn ei roi ar y GIG.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, i nodi ei asesiad o’r effaith a darparu rhagor o wybodaeth am sut y mae’n bwriadu cefnogi’r darparwyr hynny.”
Buddsoddiadau atal
Er bod y gyllideb ddrafft yn cynnwys £350 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith ataliol, mae diffyg mecanwaith i olrhain a mesur ei effaith. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd asesu a yw'r arian yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn lleihau costau hirdymor.
Cronfa Cymorth i Ofalwyr
Mae'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr a'r Cynllun Seibiant Byr yn darparu cymorth hanfodol i ofalwyr di-dâl. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyllid yn parhau am ddeuddeng mis arall, ond mae’r Pwyllgor yn galw arni i ddarparu mwy o gyllid cynaliadwy ar gyfer gofal seibiant, o ystyried y galw a lefel yr angen nas diwallwyd.
Mwy am y stori hon
Darllenwch yr adroddiad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn dweud fod y gyllideb ddrafft yn llawn ‘Geiriau gwag’, ac yn galw am wneud newidiadau brys oherwydd y ‘diffyg ffocws ac eglurder’.