Mae tryloywder yn cael ei fwrw i'r cysgod gan sefydliadau'r sector cyhoeddus sy'n defnyddio cytundebau cyfrinachedd, yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ei waith craffu blynyddol ar gyfrifon cyrff cyhoeddus, roedd y Pwyllgor yn teimlo bod gwybodaeth yn cael ei hatal yn rhy aml dan esgus sensitifrwydd masnachol. Tynnwyd sylw at gytundebau Llywodraeth Cymru gydag Aston Martin ar gyfer ei weithfeydd newydd yn Sain Tathan, a phrosiect cynt Cylchffordd Cymru yng Nglynebwy, fel achosion lle roedd gweinidogion a swyddogion y llywodraeth wedi atal dogfennau allweddol; gan atal posibilrwydd gwaith craffu cadarn.
Er y gall hyn fod yn briodol mewn rhai achosion, penderfynodd y Pwyllgor fod angen i gyrff cyhoeddus gydbwyso hyn â'r gofyniad am ddatgeliad agored er budd y cyhoedd. Galwodd am fwy o dryloywder o ran adrodd ar rai meysydd gwariant gwirioneddol neu bosibl.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at achosion yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, lle talwyd taliadau cyfrinachol gwerth mwy na £140,000 i unigolion yn gadael y sefydliadau yn 2017/18.
Pan ofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth i benderfynu a oedd y taliadau'n werth am arian, dywedwyd wrth Aelodau'r Cynulliad na ellid trafod dim byd oherwydd cytundebau cyfreithiol. Roedd hyn yn destun pryder i'r Aelodau gan y gallai cytundebau cyfrinachedd fod yn rhwystr sylweddol i chwythu'r chwiban a chuddio materion mewn diwylliant sefydliad.
“Mae'r Pwyllgor yn derbyn y gall fod amgylchiadau pan fydd angen i sefydliad ddiogelu gwybodaeth neu ddata at ddibenion cyfrinachol,” dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
“Ond ni ddylai'r cymalau hyn gael eu defnyddio fel safbwynt diofyn gan gyrff y sector cyhoeddus i osgoi gwaith craffu a allai godi cywilydd. Mae'n bwysig bod gan y cyhoedd hyder yng ngwariant y sector cyhoeddus.”
Roedd y Pwyllgor hefyd yn feirniadol o fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei chyfrifon yn ddwyieithog, gyda'r fersiwn Gymraeg yn dod ddwy wythnos ar ôl y fersiwn Saesneg.
Mae'r Pwyllgor yn credu bod gan Lywodraeth Cymru esiampl i'w gosod ar gyfer holl sefydliadau'r sector cyhoeddus a ariennir gan y llywodraeth o ran bodloni safonau'r Gymraeg y mae wedi'u gosod.
Dywedodd Mr Ramsay:
“Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi torri ei gofynion iaith Gymraeg ei hun yn bryderus ac yn siomedig.
“Byddem yn disgwyl i'r llywodraeth osod esiampl gadarnhaol o ran bodloni'r gofynion y mae'n eu gosod ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill.”
Eleni, craffodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Amgueddfa Cymru a gwnaeth lawer o argymhellion ar gyfer pob un.
Wrth drafod cyfrifon Comisiwn y Cynulliad, cododd y Pwyllgor bryder ynghylch lefelau cynyddol absenoldeb a salwch staff.
Codwyd pryderon hefyd gan yr Aelodau ar ôl cael gwybod nad yw Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol, er gwaethaf gofyniad statudol i wneud hynny. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod hyn yn cael ei unioni cyn gynted â phosibl.
Darllen yr adroddiad llawn:
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Craffu ar Gyfrifon 2017-18 (PDF, 1 MB)