Datganiad gan y Comisiwn i’r Cyfarfod Llawn – 21 Hydref 2009

Cyhoeddwyd 21/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Datganiad gan y Comisiwn i’r Cyfarfod Llawn – 21 Hydref 2009

21 Hydref 2009

Fel Llywydd a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad, yn dilyn fy ymrwymiad i chi ar Orffennaf 8fed, rwyf am wneud datganiad ar Fesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau), a osodwyd yn gynharach yr wythnos hon. Bydd y Mesur arfaethedig yn gweithredu argymhelliad 12 yr adroddiad “Yn Gywir i Gymru”, adroddiad Panel Adolygu Annibynnol Cymorth Ariannol Aelodau Cynulliad. Yn y datganiad a wnes ar ôl i’r Panel gyhoeddi ei adroddiad fis Gorffennaf, dywedais y byddwn yn gweithredu yn Aelod cyfrifol am lywio’r Mesur hanfodol hwn drwy’r gwahanol gyfnodau yn ôl ein gweithdrefnau craffu ar ran fy nghyd-Gomisiynwyr. Y datganiad hwn heddiw yw dechrau’r broses craffu.

Nesaf daw ystyriaeth cyfnod 1, gydag adroddiad Pwyllgor a fydd yn cynorthwyo Aelodau yn y ddadl yma yn y Sesiwn Lawn ar egwyddorion cyffredinol y Mesur, Os bydd yr egwyddorion hynny’n cael eu cymeradwyo, awn ymlaen i gyfnod 2, sef ystyriaeth fanwl mewn Pwyllgor, a hyd gyfnodau 3 a 4 o drafodaeth yn y Cynulliad, gan orffen gyda chymeradwyaeth Frenhinol, y gobeithir ei gael yng Ngorffennaf.

Os awn drwy’r camau hyn yn llwyddiannus byddai hyn yn galluogi’r Bwrdd Taliadau Annibynnol i recriwtio ei aelodau yn ystod yr haf a dechrau ar ei waith yn yr hydref. Drwy’r Mesur arfaethedig bydd yn ofynnol i’r Bwrdd Taliadau bennu lefel cyflogau’r dyfodol, yn osodedig am 4 blynedd tymor Cynulliad. Penodir y Bwrdd ar sail statudol gan weithredu’n annibynnol oddi ar y Cynulliad. Bydd yn penderfynu pob cymorth ariannol i Aelodau Cynulliad. Bydd y penderfyniadau hynny’n derfynol, heb angen eu cadarnhau na’u cymeradwyo gan na Chomisiwn na Chynulliad.

Bydd sefydlu’r Bwrdd Taliadau yn dangos bod y Cynulliad yn barod i ddeddfu gan gryfhau proses ddatganoli Cymru, drwy sylfaenu system annibynnol fwy agored a thryloyw o gymorth ariannol i Aelodau Cynulliad fydd yn ennyn hyder y cyhoedd.

Gofynnir i’r Bwrdd Taliadau gydbwyso tri amcan gwahanol:

  1. ·Darparu lefel o daliadau i Aelodau Cynulliad sy’n adlewyrchu’n deg gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, ond heb fod llestair, am resymau ariannol, i rai â’r ymroddiad a’r gallu i geisio’u hethol i’r Cynulliad;

  2. ·Darparu adnoddau digonol i Aelodau Cynulliad i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau fel Aelodau Cynulliad; a gan

  3. ·Sicrhau uniondeb, ateboldeb, gwerth am arian a thryloywder o ran gwario cyllid cyhoeddus.

Egwyddor ganolog y Mesur Arfaethedig yw na ddylem ni, fel Aelodau Cynulliad, geisio gosod lefel ein taliadau o hyn allan. Yn y mater hwn, mae’r Mesur gam o flaen Deddf Safonau Seneddol y DU 2009, sy’n trosglwyddo rheolaeth lwfansau i gorff annibynnol, wrth gadw’r grym terfynol i benderfynu eu cyflogau ei hunain gydag Aelodau Seneddol.

Bydd Aelodau ymhob cwr o’r Cynulliad hwn yn cofio eu consyrn pan osodwyd cyflogau a lwfansau yma ar ganran fympwyol o San Steffan heb ystyried anghenion model democrataidd Cymreig. Dyna pam y derbyniwyd yr argymhelliad i ddiddymu’r cysylltiad allanol gan fanteisio ar ein cymwyseddau deddfu newydd a gweithredu mewn ffordd ddatganoledig gyfrifol, fel bod cyflogau a lwfansau yn cael eu pennu gan gorff sy’n deall amgylchiadau Cymru a swyddi unigryw Aelodau Cynulliad.

Wrth lywio’r Mesur Arfaethedig hwn gwn fod cyfeillion o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt yn ein gwylio’n ofalus, wrth ddisgwyl gwahanol adroddiadau ar gymorth ariannol i aelodau eu deddfwrfeydd gael eu cyhoeddi. Wrth barhau i’ch annog chi fy Nghyd-Aelodau i ganlyn y llwybr y cychwynnom arno, gan graffu ar ei fanylion yn drylwyr, hoffwn annog ein cyfeillion yn yr Alban, yng Ngogledd Iwerddon ac yn arbennig yn San Steffan i bara i ddilyn ein harweiniad.