‘Dim cynnydd’ ar ddiwallu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr

Cyhoeddwyd 20/02/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/02/2025

Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn annog Llywodraeth Cymru i unioni’r diffyg o ran cynnydd a gwelliannau i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru. 

Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn canfod mai ychydig iawn o gynnydd, neu ddim cynnydd o gwbl, a fu o ran darparu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd, na’r modd y mae safleoedd presennol yn cael eu cynnal ers eu hadroddiad diwethaf ar y mater. 

Dim gwelliant yn dilyn methiannau eang 

Ym mis Awst 2022, fe wnaeth adroddiad y Pwyllgor ganfod methiannau pellgyrhaeddol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol o ran darparu safleoedd digonol, gyda llawer ohonynt wedi’u lleoli mewn ardaloedd amhriodol, megis wrth ymyl ffyrdd peryglus heb gyfleusterau i blant na’r henoed.   

At hynny, er gwaethaf ymrwymiadau niferus blaenorol gan Lywodraeth Cymru i wella'r sefyllfa, nid yw hyn wedi arwain at unrhyw newidiadau ystyrlon i deuluoedd.   

Ar gyfer yr ymchwiliad hwn, dywedodd llawer o bobl sy’n byw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wrth y Pwyllgor fod cyflwr gwael safleoedd awdurdodau lleol yn niweidio eu llesiant corfforol a meddyliol.  

Soniwyd am adfeiliad eang, a disgrifiwyd problemau cyson gyda llygredd a phlâu llygod mawr. Yn wahanol i ystâd gyngor, lle mae yna amserlen a rhaglen cynnal a chadw, nid yw hynny’n wir am safleoedd teithwyr sy’n eiddo i awdurdodau lleol, gan arwain llawer i gyhuddo awdurdodau lleol o ganiatáu i safleoedd ddirywio. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i wella’r gwaith o gynnal a chadw safleoedd, ac i egluro beth y bydd yn ei wneud i ymdrin ag awdurdodau lleol sy’n parhau i fethu â gwneud hyn. 

Yn ôl John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: “Cryn siom yw gweld – ddwy flynedd a hanner ers ein hadroddiad diwethaf ar y mater hwn – mai ychydig iawn o gynnydd, os o gwbl, sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, o ran gwelliannau ar lawr gwlad. 

“Cawsom glywed fod yr esgeulustod parhaus o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arwain at broblemau iechyd corfforol a meddyliol sylweddol ymhlith eu trigolion, oherwydd diffyg atgyweirio, a llygredd, ar raddfa eang. Mae gwneud i bobl fyw yn yr amodau hyn yn annerbyniol, ac mae’n syfrdanol ein bod yn clywed yr un cwynion ag a wnaethom yn 2022. 

“Mae’n amlwg nad yw rhai awdurdodau lleol hyd yn oed yn cymryd y camau lleiaf posibl i gynnal safleoedd, ac mae’n ymddangos nad oes ganddynt ddiddordeb mewn cynnal perthynas dda â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n rhaid i hyn newid ar frys. 

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’r modd y bydd yn delio ag awdurdodau lleol sy’n parhau i esgeuluso eu dyletswyddau i ddarparu safleoedd digonol a diogel i deuluoedd, a dechrau gweithio ar frys ar ei hymrwymiad i helpu’r rheini sy’n ceisio datblygu safleoedd preifat.” 

Rhagfarn a hiliaeth 

Canfu adroddiad y Pwyllgor yn 2022 fod diffyg ewyllys gwleidyddol yn rheswm sylweddol am y diffyg safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, a bod hiliaeth a rhagfarn eang - gan gynnwys gan gynghorwyr - yn aml yn ffactor allweddol. 

Mae’r adroddiad heddiw yn ailbwysleisio’r pryderon hynny, ac yn disgrifio’r modd y mae Sipsiwn a Theithwyr yn teimlo bod yna ddrwgdeimlad tuag atynt gan gymunedau ehangach, a chan swyddogion awdurdodau lleol. 

Mae’r Pwyllgor yn galw am welliant yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr, a fyddai hefyd yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o anghenion a ffordd o fyw Sipsiwn a Theithwyr. 

At hynny, mae yn ddau argymhelliad clir i Lywodraeth Cymru o adroddiad heddiw, i gynnal gwell sgwrs, a chynyddu ymddiriedaeth. Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod gan bob awdurdod lleol Swyddog Cyswllt Sipsiwn a Theithwyr, a dylent hefyd adfer y Fforwm Sipsiwn a Theithwyr cyn gynted â phosibl er mwyn gwella deialog ac ymddiriedaeth.     

Aeth John Griffiths yn ei flaen i ddweud: “Clywsom fod rhagfarn yn erbyn teithwyr ar lefel leol, a thrwy gymdeithas, yn dal i fod yn beth cyffredin – mae’n rhaid mynd i’r afael â hynny fel mater o flaenoriaeth.  

“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithredu ar ein hargymhellion ar frys, neu bydd aelodau o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn parhau i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yng Nghymru.” 

Safleoedd mewn perchnogaeth breifat 

Dywedodd Sipsiwn a Theithwyr a wnaeth siarad â’r Pwyllgor y byddai’n well ganddynt fyw ar safleoedd a reolir ganddynt hwy eu hunain, yn hytrach na rhai a reolir gan awdurdodau lleol. 

Yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2022, maent yn nodi nifer o gamau gweithredu i wneud y wlad yn wrth-hiliol erbyn 2030. Un o'r cyfryw gamau oedd lansio rhaglen tair blynedd i ddarparu cyngor annibynnol y gellir ymddiried ynddo, i'r rheini sy'n ceisio datblygu safleoedd preifat.  

Bron i dair blynedd yn ddiweddarach, canfu’r Pwyllgor nad yw’r gwaith hwn wedi’i ddechrau gan Lywodraeth Cymru.