Dull mwy strategol sydd ei angen i gael dylanwad yn Ewrop - yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 06/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dull mwy strategol sydd ei angen i gael dylanwad yn Ewrop - yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2014

Dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy strategol wrth hyrwyddo buddiannau Cymru ar gyfer penderfyniadau a wneir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) - yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn credu mai anymarferol yw ceisio dylanwadu ar yr holl benderfyniadau a wneir yn Ewrop. Mae am weld blaenoriaethau’n cael eu pennu a’u trin mewn ffordd gydgysylltiedig, gan ddefnyddio cysylltiadau â Llywodraeth y DU, holl Aelodau Cymru o Senedd Ewrop a sefydliadau perthnasol yn y meysydd a flaenoriaethir.

Rhanbarth mewn Aelod-wladwriaeth yn Ewrop yw statws Cymru, sy’n golygu mai ‘llais y DU’ a glywir yn bennaf mewn trafodaethau ynghylch polisi a deddfwriaeth ar lefel yr UE. Ond mae’r Pwyllgor yn credu bod cyfleoedd i gael dylanwad yn y camau cynnar, gan gyfeirio at gyfraniadau Cymru i ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Chronfeydd Strwythurol yr UE fel enghreifftiau cadarnhaol.

Er hynny, siom i’r Pwyllgor yw’r ffaith nad oes fawr o gysylltiad o hyd rhwng Llywodraeth Cymru ac adrannau unigol Whitehall, a hynny wedi 15 mlynedd o ddatganoli. Mae am weld cysylltiadau cadarnhaol a chyson mewn meysydd allweddol. 

“Wrth i Aelod-wladwriaethau newydd ymuno â’r UE, mae’n mynd yn anos sicrhau eich bod yn cael eich clywed mewn dadleuon arwyddocaol sy’n effeithio ar eich diddordebau”, dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

“Serch hynny, mae gan Gymru ran bwysig i’w chwarae yn natblygiad Ewrop ac rydym yn credu ei bod yn hanfodol defnyddio dull mwy strategol, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n nodi blaenoriaethau strategol ac yn chwilio pob ffordd am gyfle i gyflwyno ein hachos.

“Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei strategaeth ar gyfer yr UE ac yn ei diwygio, gan dynnu ar y wybodaeth a’r profiad eang ynghylch materion yr UE wrth ymgymryd â’r gwaith hwn.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei dull o ymgysylltu ag Aelodau Cymru o Senedd Ewrop;

  • Dylai Llywodraeth Cymru drafod â Llywodraeth y DU y ffordd y mae adrannau Whitehall ac adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ar feysydd polisi’r UE mewn meysydd datganoledig, gan ysgrifennu at y pwyllgor hwn gyda’r manylion am ymateb Llywodraeth y DU;

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei defnydd o ddiplomyddiaeth ‘feddal’ yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar wireddu ei gweledigaeth a’i nodau strategol o ran materion yr UE

Adroddiad: Rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE

Yr ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE