Dylai teledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai yng Nghymru

Cyhoeddwyd 23/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/01/2020

Dylai teledu cylch cyfyng fod yn orfodol mewn lladd-dai yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad ar ddeiseb a gyflwynwyd gan Animal Aid ac a gasglodd 1,066 o lofnodion. Roedd y ddeiseb yn nodi’r canlynol:

“Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i osod teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai er mwyn helpu milfeddygon i reoli a monitro yn well, darparu deunydd ffilm er budd hyfforddiant ac ail-hyfforddi, atal cam-drin anifeiliaid, fel y ffilmiwyd gan Animal Aid, ac fel tystiolaeth ar gyfer erlyniad mewn achosion o gam-drin.”

Ar ôl craffu ar y mater yn fanwl, roedd y Pwyllgor yn anghytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru y dylid dim ond ystyried gorfodi lladd-dai i osod teledu cylch pe na bai dull gwirfoddol yn unig yn addas i’r diben.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae 24 o ladd-dai yng Nghymru, ond dim ond deg ohonynt oedd â theledu cylch cyfyng wedi'i osod. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i osod teledu cylch cyfyng, ond mae’r Pwyllgor o’r farn y byddai gorfodi lladd-dai i osod teledu cylch cyfyng yn fwy effeithiol o ran sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad.

Mae camau eisoes wedi’u cymryd yn Lloegr a’r Alban i wneud gosod teledu cylch cyfyng yn orfodol.

Yng Nghymru, dangosodd recordiad cudd gan y deisebwyr sawl esiampl o driniaeth wael o anifeiliaid mewn lladd-dy ger Wrecsam. Roedd y ffilm yn dangos defaid yn cael eu llusgo wrth eu gyddfau, neu’n cael eu tynnu wrth eu clustiau neu eu coesau, ac roedd hyd yn oed tystiolaeth o weithwyr yn lladd anifeiliaid heb eu stynio’n ddigonol yn gyntaf. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ymchwilio i’r achosion hyn.

Ar wahân, roedd y Pwyllgor eisoes wedi dechrau trafod deiseb yn galw am gyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gynnal archwiliadau a chymryd camau gorfodi ynghylch lles anifeiliaid.

Fodd bynnag, daeth i’r amlwg o dystiolaeth a ddaeth i law’r Pwyllgor fod y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2019/20 ychydig yn llai na £32,000, a bod lefel y cyllid wedi bod cyn lleied â £7,400 mewn blynyddoedd blaenorol (yn 2016/17).

Mae’r Pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu swm digonol o gyllid i sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei wirio’n effeithiol mewn lladd-dai yng Nghymru, gan gynnwys monitro teledu cylch cyfyng a chymryd camau gorfodi perthnasol.

“Mae’n hanfodol bod anifeiliaid yn cael eu trin â pharch ac urddas ar bob adeg, gan gynnwys ar ddiwedd eu bywydau,” meddai Janet Finch-Saunders AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

“Nid yw’r Pwyllgor yn credu bod safbwynt Llywodraeth Cymru o gael dull gwirfoddol yn unig yn ddigonol i sicrhau bod y safonau cywir o ran lles yn cael eu cynnal ym mhob achos.

“Mae’n amser i Lywodraeth Cymru gymryd camau i roi sicrwydd i bawb yng Nghymru fod cyn lleied o ddioddefaint â phosibl yn cael ei achosi i anifeiliaid ar yr adegau hynod sensitif hyn.

“Hefyd, credwn ei fod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid digonol i atgyfnerthu’r safonau hyn ac i gymryd camau priodol pan fo angen.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud tri argymhelliad yn ei adroddiad: 

-           bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn orfodol i osod a chynnal systemau teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yng Nghymru;

-           bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd, neu gorff priodol arall, yn cael lefel ddigonol o adnoddau i fonitro a gorfodi'r system fonitro teledu cylch cyfyng newydd mewn lladd-dai yng Nghymru; a

-           bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael lefel ddigonol o adnoddau i wneud ei gwaith i sicrhau lles anifeiliaid yng Nghymru, gan ystyried amcangyfrifon yr Asiantaeth Safonau Bwyd o ran y gost ar gyfer darparu rheolaethau swyddogol.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma