Dywed pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol mai arfer da yw’r ‘teithiwr gwaelaf’ ymhlith byrddau iechyd Cymru

Cyhoeddwyd 26/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/02/2016

Mae arfer da y 'teithiwr gwaelaf' yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi bod yn ystyried sut y caiff sefydliadau iechyd Cymru eu rhedeg.

Bu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn monitro a yw argymhellion a wnaed mewn adroddiad blaenorol ar y rheolaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn 2013 wedi cael eu mabwysiadu ledled Cymru.

 

Ychydig o dystiolaeth a welodd y Pwyllgor fod byrddau iechyd yn rhannu arfer gorau, nac yn dysgu o'r problemau a brofir gan eraill.

Daeth yr Aelodau i'r casgliad hefyd bod problemau sylweddol yn parhau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig, gan nodi beirniadaethau diweddar o'r Bwrdd, a galwadau amrywiol am i aelodau'r Bwrdd ymddiswyddo.

Nododd y Pwyllgor na chafwyd unrhyw feirniadaeth o'r uwch-reolwyr, ac awgrymodd, lle'r oedd gwendidau, y dylai uwch-reolwyr sydd â chyfrifoldeb gael eu dwyn i gyfrif.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Wrth gyhoeddi ein hadroddiadau blaenorol ar reoli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr roedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd yn dysgu gwersi o gamgymeriadau a wnaethpwyd, i sicrhau nad ydynt yn digwydd mewn mannau eraill.

"Yn anffodus, canfu'r Pwyllgor bod arfer da y teithiwr gwaelaf yng Nghymru, ac nad yw byrddau iechyd yn rhannu eu syniadau ar gyfer mynd i'r afael â'r materion pwysig y mae GIG Cymru yn eu hwynebu.

"Credwn y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i gasglu a rhannu arfer gorau ac i sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd yr offer cywir i gynnig y gofal o safon uchel y mae pobl Cymru yn ei haeddu."

Hefyd beirniadwyd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gan y Pwyllgor, a ddaeth i'r casgliad bod perfformiad AGIC o ran cyhoeddi adroddiadau arolygu yn brydlon, a'r rhesymau a roddir dros oedi, yn annerbyniol.

Yn 2014-15, 61% yn unig o'r adroddiadau arolygu drafft a luniwyd o fewn yr amser targed, sef tair wythnos; a 67% yn unig o adroddiadau terfynol gyda chynlluniau gweithredu cysylltiedig â hwy a gyhoeddwyd ar wefan AGIC o fewn y targed o dri mis, er bod y perfformiad wedi gwella, ac wedi cyrraedd oddeutu 72% o'r targed yn ystod 2015.

Mae cyllid y GIG wedi'i archwilio gan y Pwyllgor yn flaenorol, ac mae cyfanswm o 24 o argymhellion wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cymru.

Ond canfu'r Aelodau bod byrddau iechyd yn rhagamcanu gorwariant o fwy na £142 miliwn ar gyfer diwedd y flwyddyn ariannol 2015/16. Mae pump o'r deg o sefydliadau iechyd yn rhagamcanu dim gorwariant o gwbl, a chroesawodd y Pwyllgor hyder Llywodraeth Cymru y byddai'r ffigur gorwariant yn gostwng i £50-60 miliwn erbyn mis Ebrill.

Fodd bynnag, roedd yr Aelodau'n parhau'n bryderus nad oedd gweithredu'r cam o gynllunio ariannol tair blynedd yn sgîl Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 wedi cyflawni'r bwriad a ddymunwyd. Er y cofiwn nad yw'r cylch llawn wedi'i gwblhau eto, mae rhai byrddau iechyd yn wynebu'r drydedd flwyddyn gyda dyledion  sylweddol.

 

Dywedodd Mr Millar:

"Mae'r ffaith bod pump o'r deg sefydliad iechyd yng Nghymru yn mynd ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf â gorwariant sylweddol yn peri pryder, ac mae'r Pwyllgor yn bryderus iawn nad yw gweithredu'r cwmpas cynllunio ariannol tair blynedd, y gofynnodd y byrddau iechyd amdano, yn cyflawni'r bwriad a ddymunwyd.

"Rydym o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau manwl a ariennir yn llawn gael eu cyflwyno gan bob bwrdd iechyd i ddangos sut y maent yn bwriadu sicrhau cydbwysedd o ran eu cyllidebau, a pha gynlluniau wrth gefn sydd wedi'u sefydlu ganddynt pe na bai arbedion a fwriadwyd neu fuddion o fuddsoddiadau a wnaed yn cael eu gwireddu, a sut y byddant yn sicrhau bod unrhyw effaith ar wasanaethau rheng flaen yn fach iawn."

 

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 27 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio'n fanylach sut y gall wella rhannu arfer da, gan roi mwy o gyfeiriad, lle bo modd, ynghylch arfer o'r math a chan fonitro cydymffurfiaeth ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddir.
  • Sicrhau bod dulliau rheoli perfformiad a dulliau adrodd cryfach ynghylch prosesau ar waith o ran paratoi a chyhoeddi adroddiadau arolygu, i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn bodloni ei 'thargedau adrodd' ac yn eu cyflawni; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol: a) i gael cynlluniau tair blynedd wedi'u cydbwyso'n llawn ar gyfer pob bwrdd iechyd, b) i gynllunio ariannol ddigwydd ar y cyd, sy'n dangos sut y bydd cyllidebau'n cydbwyso ar draws y GIG yn gyfan bob blwyddyn, c) i gael cynlluniau manwl wrth gefn sy'n nodi sut y bydd byrddau iechyd yn ymateb os na fydd arbedion a gynlluniwyd o fuddsoddiadau a wnaed yn cael eu gwireddu a / neu os ceir pwysau cost ychwanegol.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr