Baneri Cymru a'r UE

Baneri Cymru a'r UE

Mae perygl i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir roi gormod o bŵer i Weinidogion ac osgoi’r Senedd

Cyhoeddwyd 23/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2023   |   Amser darllen munud

Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi nodi pryderon difrifol am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir Llywodraeth y DU a’r effaith y gall ei chael ar sicrwydd ac ansawdd cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru.

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi amlinellu ei bryderon o ran sut mae’r Bil yn canoli gormod o rym ar Weinidogion y llywodraeth, ac yn osgoi rôl seneddau, gan gynnwys Senedd Cymru.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw am i Lywodraeth Cymru egluro’n llawn effaith rhoi’r Bil ar waith, pe bai’n cael ei basio, o ran sut y bydd yn darparu deddfwriaeth bwysig arall ar gyfer Cymru.

Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad:

“Ni ddylid diystyru effaith Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir Llywodraeth y DU. Gyda’i effaith ar dros 4,000 o ddarnau o ddeddfwriaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd pwysig, rhaid rhoi ystyriaeth briodol i’r dasg dan sylw gan Senedd Cymru a Senedd y DU.

“Ar ran pobl Cymru, gwaith y Senedd yw dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae’r Bil hwn, os daw yn gyfraith, yn canoli gormod o rym yn nwylo gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, heb graffu digonol gan y Senedd.

“Nid ydym wedi gweld dim tystiolaeth bod ar weinidogion y llywodraeth angen pwerau tu hwnt o eang i ymdrin â chyfraith y DU a ddargedwir heb oruchwyliaeth briodol gan ddemocratiaeth seneddol.

“Er mwyn i ni gael cyfreithiau da yng Nghymru mewn meysydd hanfodol fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, rhaid i ni gael goruchwyliaeth gywir ac amser i ystyried deddfwriaeth – nid cael ein brysio i fodloni terfyn amser, sy’n ymddangos yn ddiangen i’r rhan fwyaf ohonom. Mae’r rhain yn faterion pwysig i bobl Cymru a rhaid eu hystyried yn ofalus er mwyn sicrhau nad ydym yn colli gwarchodaethau pwysig sydd o fudd i ni oll.   

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi syniad eglur i ni o beth fyddai ystyr gweithredu Bil Cyfraith yr UE o ran amser y Llywodraeth a’r Senedd.”

Cyfraith yr UE a ddargedwir

Yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, troswyd cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Galwyd y gyfraith hon yn ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’. Mae cyfreithiau’r UE wedi aros gyda’r nod o osgoi bylchau mewn meysydd pwysig fel safonau cynnyrch, lles anifeiliaid a chyfraith cyflogaeth.

Mae Llywodraeth y DU bellach yn ystyried nad oes lle erbyn hyn i gysyniadau cyfraith yr UE ar lyfr statud y DU, ac mae’n ceisio dileu neu ddiwygio’r cyfreithiau hyn gyda Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).

Oherwydd bod llawer o’r cyfreithiau mewn meysydd pwnc a ddatganolwyd i Gymru, fel amaethyddiaeth a’r amgylchedd, rhaid gofyn am gydsyniad y Senedd o ran pasio Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn Senedd y DU. Ystyr hyn yw, rhaid i ‘Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol’ gael eu hystyried gan y Senedd a rhaid i Aelodau o’r Senedd bleidleisio ar gynnig yn hyn o beth.

Pwerau Gweinidogol Diangen

Rôl y Senedd yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac mae’r Pwyllgor yn mynegi pryderon mawr fod y Bil yn atal hyn ac yn rhoi gormod o rym i weinidogion y llywodraeth.

Mae’r Pwyllgor yn rhybuddio nad yw’r Bil yn cydnabod yn ddigonol rôl y ddeddfwrfa mewn democratiaeth seneddol a’i fod yn hwyluso anghydbwysedd annerbyniol o ran grym rhwng y llywodraeth a’r senedd. Mae’r Pwyllgor yn cefnogi galwadau i dynnu pwerau gweinidogol diangen a diderfyn o’r Bil.

Yr effaith ar waith Llywodraeth Cymru a’r Senedd

Dywedodd y Prif Weinidog wrth Bwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog y Senedd y byddai angen dargyfeirio gallu o rywle arall o fewn Llywodraeth Cymru i ymdopi â’r gwaith yn sgil y Bil.

Mae’r Bil yn cynnwys ‘cymal machlud’ ar gyfraith yr UE a ddargedwir, sy’n golygu y bydd cyfreithiau yn cael eu dileu ar ôl 31 Rhagfyr 2023, oni bai y cânt eu harbed neu’u diwygio. Mae’r amserlen ar gyfer y Bil, a achosir gan y dyddiad machlud hwn yn arwain at fod y Senedd yn debygol o wynebu llwyth gwaith na welwyd mo’i debyg o’r blaen yn yr hydref 2023 – a allai arwain at effeithio ar waith pwysig arall.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro a gosod asesiad gonest ynghylch y goblygiadau i Lywodraeth Cymru o ran adnoddau a gallu i roi’r Bil ar waith, a nodi pa weithgaredd, os o gwbl, y byddai angen ei ohirio er mwyn cyflawni’r tasgau y bydd angen iddi eu cwblhau erbyn diwedd 2023.