tai

tai

Galw ar Lywodraeth Cymru i godi mwy o dai cymdeithasol

Cyhoeddwyd 20/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dylid codi mwy o gartrefi cymdeithasol ar gyfer pobl yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd heddiw.  

Mae ymchwiliad diweddaraf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn galw am greu corfforaeth datblygu cenedlaethol i gyflymu’r gwaith o adeiladu tai drwy brynu tir a chynllunio tai ledled Cymru. 

Adeiladu mwy o dai 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn canfod y bydd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn ei chael hi’n anodd adeiladu faint o dai sydd eu hangen ac mai’r ateb yw corfforaeth datblygu newydd a allai weithio ar safleoedd llawer mwy.  

Dangosodd tystiolaeth i’r Pwyllgor fod gwledydd fel Denmarc a Chanada yn defnyddio corfforaethau datblygu, ac y dylai Cymru geisio dysgu o’r enghreifftiau llwyddiannus hyn. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r swm sy’n cael ei wario ar dai cymdeithasol er mwyn adeiladu 60,000 yn fwy o gartrefi, gyda’r nod yn y pen draw bod 20% o stoc tai Cymru yn perthyn i’r categori hwn, i fyny o 16% heddiw.  

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud y dylai Banc Datblygu Cymru ddechrau ariannu datblygiadau tai cymdeithasol yn uniongyrchol, gan gynnig telerau sydd efallai’n fwy ffafriol na’r rhai y mae buddsoddwyr preifat yn eu cynnig i landlordiaid cymdeithasol ar hyn o bryd.  

Corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Banc Datblygu Cymru, ac mae’n ariannu busnesau i’w helpu i dyfu yng Nghymru. 

Rhestrau aros ar gyfer llety un ystafell wely  

Mae gan dai cymdeithasol, a ddarperir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, restrau aros hir ar gyfer pobl sydd angen gwahanol fathau o lety. Clywodd y Pwyllgor gan denantiaid nad y math sydd ei angen yw’r math o eiddo sydd ar gael.  

Cartrefi â dwy neu dair ystafell wely yw llawer o’r eiddo sydd ar gael drwy dai cymdeithasol. Caiff y rhain eu blaenoriaethu ar gyfer teuluoedd, sy’n golygu bod pobl sydd angen eiddo ag un ystafell wely ar restrau aros am gyfnod hwy. 

Mae Garry Roper, 47 oed, yn byw yng Nghaerdydd. Bu’n aros 21 mis i lety un ystafell wely ddod ar gael. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n byw mewn hostel YMCA ac roedd byw yno yn ei gwneud hi’n anodd iddo weld ei fab yn rheolaidd.

“Roeddwn i’n byw yn yr YMCA o fis Tachwedd 2022 tan ddiwedd mis Awst 2024. Y rheswm dros pam fod rhaid imi aros mor hir oedd oherwydd prinder llety oedd yn addas ar gyfer un oedolyn. 

“Yr effaith mwyaf a gafodd hyn ar fy mywyd oedd ei bod hi’n anodd i mi weld fy mab a threulio amser gydag ef. Mi wnaeth ddod i fy ngweld i yn yr YMCA yn ystod yr oriau ymweld sy’n cael ei ganiatáu, ond roedd rhai problemau gyda hynny. Roedd byw mewn hostel i bobl digartref yn dipyn o straen ar brydiau. 

“Rwy’n falch iawn fy mod I wedi cael cynnig cartref nawr ac mae’n llawer haws na byw mewn hostel. Cefais lawer o gefnogaeth gan ffrindiau, teulu a thim cefnogi Byddin yr Iachawdwriaeth sydd wedi fy helpu i setlo yn fy nghartref newydd. Rwy’n gallu gweld fy mab yn fwy rheolaidd, sydd wedi bod yn wych.” 

Mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wneud yn siŵr bod digon o gartrefi un ystafell wely yn cael eu hadeiladu i leihau’r pwysau ar restrau aros.     

Dywedodd sefydliadau fel Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru a Sefydliad Tai Siartredig Cymru wrth y Pwyllgor fod galw aruthrol am lety un ystafell wely.  

Mae adroddiad y Pwyllgor heddiw yn dweud y dylid mynd i’r afael â hyn mewn ffyrdd gwahanol. Dylai cynghorau a chymdeithasau tai gaffael eiddo un ystafell wely sy'n bodoli eisoes, adeiladu ar dir gwag ger datblygiadau tai, ailfodelu tai mwy yn dai llai, a hefyd adfer fflatiau uwchben siopau'r stryd fawr.  

Targedau wedi'u methu? 

Mae gan Lywodraeth Cymru darged hirsefydlog i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2026 i leddfu’r argyfwng tai yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r targed hwn ond mae'n pryderu na fydd y targed yn cael ei gyrraedd, a hyd yn oed os caiff ei gyrraedd, na fydd yn ddigon i ddiwallu’r galw.  

Yn gynharach eleni, dywedodd Julie James AS, a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Cabinet Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio Llywodraeth Cymru, fod y llywodraeth yn “dal ein gafael” ar y targed o 20,000 “o drwch asgell gwybedyn”.  

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, “Mae’r adroddiad heddiw yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd os yw am gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi newydd erbyn 2026.    

“Rhan hanfodol o gyflawni hyn yw sicrhau bod cyfuniad addas o gartrefi’n cael eu hadeiladu, a hynny o reidrwydd yn cynnwys mwy o eiddo un ystafell wely. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i wneud yn siŵr bod y neges hon yn cael ei chyfleu.   

“Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael iddi i fynd i’r afael â’r broblem hon. Un ffordd o hybu nifer y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu yw grymuso Banc Datblygu Cymru i ddechrau ariannu datblygiadau tai cymdeithasol yn uniongyrchol.    

“Os ydyn ni am fynd i’r afael â’r argyfwng tai yna mae’n rhaid adeiladu mwy o dai cymdeithasol ar frys – cyn i’r rhestrau aros fynd yn hirach fyth.”  

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.