Mae Cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn gynllun sy’n llawn ‘geiriau gwag’, yn ôl Pwyllgor Cyllid y Senedd.
Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn galw am wneud newidiadau brys i’r Gyllideb ddrafft gan fod ‘diffyg ffocws ac eglurder’ yn y cynigion presennol.
Bydd y cynlluniau gwariant yn cael eu trafod yn y Senedd yfory, 4 Chwefror, pan fydd gwleidyddion hefyd yn pleidleisio ar Gyllideb 2025-26 am y tro cyntaf.
Gwelliannau angenrheidiol
Un o'r prif feysydd sy'n peri pryder i'r Pwyllgor yw effaith y cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar sefydliadau yng Nghymru.
Dywedodd yr elusen digartrefedd Llamau y bydd y cynnydd yn costio £500,000 ychwanegol y flwyddyn nesaf ac esboniodd Marie Curie hefyd eu bod yn wynebu bil ychwanegol o £260,000 yng Nghymru yn unig.
Gwnaeth nifer o gyrff rybuddio’r Pwyllgor eu bod yn wynebu ‘senario ymyl y diben’ os na chaiff cymorth ychwanegol ei ddarparu.
Clywodd y Pwyllgor hefyd y gallai’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol effeithio’n anghymesur ar Gymru gan fod y newidiadau’n cael mwy o effaith ar weithwyr ar gyflogau is a bod Cymru’n tueddu i fod â mwy o weithwyr ar gyflogau isel o gymharu â chyfartaledd y DU.
Mae’r adroddiad heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diweddariad am y cyllid y bydd yn ei dderbyn gan y Trysorlys er mwyn lleihau effaith y cynnydd.
Mae’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn cael ei nodi fel pryder nid yn unig gan y Pwyllgor Cyllid ond mae hefyd yn cael ei amlygu gan bum pwyllgor arall yn y Senedd fel pryder i sefydliadau yn eu sectorau.
“Mae’r costau hyn (Cyfraniad Yswiriant Gwladol), a’r heriau yn eu sgil, yn debygol o gael effaith ddinistriol ar y trydydd sector a’r sector gofal cymdeithasol” Gofal a Chymorth Pobl |
‘Geiriau gwag’
Dywedodd Canghellor y Trysorlys y DU mai setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 oedd y cynnydd mwyaf mewn termau real yn ei chyllid ers datganoli.
Roedd yn addo ‘optimistiaeth’ a ‘dyfodol disgleiriach’, yn wahanol iawn i iaith cyni yn y blynyddoedd blaenorol. Ond, yn ôl tystiolaeth y Pwyllgor, nid yw cynigion gwariant Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r rhethreg hon - ac mewn sawl maes nid ydynt yn ddim mwy na ‘geiriau gwag’.
Argyfwng costau byw yn rhan o fywyd bob dydd
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd nad yw’r argyfwng costau byw wedi diflannu ac mae bellach yn rhan o fywydau bob dydd llawer ledled Cymru.
Yn lle rhoi’r gorau i roi cymorth i bobl sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i hynny, yn ôl y Pwyllgor.
Mae’r cynllun Bwndel Babi, sy’n cefnogi teuluoedd plant ifanc sydd dan bwysau ariannol drwy ddarparu eitemau fel dillad babanod a matiau newid, yn enghraifft o raglen a ddylai fod ar gael ledled Cymru, meddai’r Pwyllgor, nid mewn ardaloedd dethol yn unig.
“mae’r argyfwng costau byw yn bell o fod ar ben … rydyn ni mewn gwirionedd yn meddwl ei fod yn fwy o ran o’r amodau y mae pobl yn eu hwynebu” Sefydliad Bevan |
Dywedodd Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, “Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae’r Pwyllgor hwn a sawl un arall wedi clywed gan arbenigwyr na fydd cynlluniau’r Gyllideb ar gyfer eleni yn darparu lefelau digonol o gymorth ar gyfer gwasanaethau hanfodol yng Nghymru.
“Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol i gyflogwyr fel pryder mawr gan lawer o sefydliadau, fel y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gyda rhai yn dweud y gallai hyd yn oed arwain at eu cau.
“Rydyn ni’n gwybod nad yw’r heriau costau byw y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wedi diflannu ac mae ein neges i Lywodraeth Cymru yn glir: nid nawr yw'r amser i dorri'n ôl ar roi cymorth i bobl sy’n agored i niwed.
“Mae’r adroddiad heddiw yn amlinellu pryderon difrifol am y Gyllideb arfaethedig ac yn darparu argymhellion clir i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Os yw’r Gyllideb arfaethedig i fod yn arwydd o ddechrau newydd a seibiant o’r cyni ariannol, yn anffodus mae tipyn o waith i’w wneud eto.”
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adroddiad y Pwyllgor ar y Gyllideb cyn y cynhelir Dadl a phleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 4 Mawrth.