Meithrinfa

Meithrinfa

Gofal plant yng Nghymru yn ‘rhy gymhleth, digyswllt a dryslyd’

Cyhoeddwyd 24/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae llawer o rieni yn colli allan ar y cymorth gofal plant y mae ganddynt hawl iddo gan ei bod yn rhy anodd iddynt ddeall yr hyn y gallant ei hawlio, neu sut y gall eu plant elwa. 

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru drwsio’r system gofal plant, gan ei bod yn rhy gymhleth a digyswyllt i alluogi teuluoedd i hawlio cymorth. 

Dryslyd a themeidiog 

Mae tri chynllun gwahanol ar waith yng Nghymru, ac mae gan bob un ohonynt feini prawf cymhwystra gwahanol. Mae rhai o’r meini prawf hyn yn dibynnu ar ble mae'r plentyn yn byw. Yn aml, golyga hyn fod yn rhaid i rieni wneud ceisiadau lluosog er mwyn sicrhau’r gofal plant y mae ganddynt hawl iddo. 

Dywedodd Sefydliad Bevan wrth y Pwyllgor nad yw hanner y rhieni cymwys yn manteisio ar y Cynnig Gofal Plant.  

Mae adroddiad y Pwyllgor, 'Eu Dyfodol: Ein Blaenoriaeth?', yn nodi bod y system bresennol yn 'ddryslyd ac yn dameidiog', ac yn annog Llywodraeth Cymru i grynhoi’r gwahanol ffrydiau cyllido gofal plant yn un ffrwd, i'w gwneud yn haws i rieni hawlio'r cymorth sydd ar gael iddynt. 

Gyda gwyliau’r haf yn dechrau yr wythnos nesaf, clywodd y Pwyllgor y bydd llawer o rieni yn ei chael hi’n anodd trefnu gofal plant o gwmpas eu dyletswyddau gwaith, gydag aelodau o’r teulu’n gorfod camu i’r adwy pan nad oes gofal plant ffurfiol ar gael.   

Darparwyr yn cael trafferth goroesi 

Mae'r adroddiad hefyd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am y diffyg cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael â phroblemau hirsefydlog yn y system gofal plant 'ddryslyd', a hynny er gwaethaf y ffaith bod adroddiad gan y Pwyllgor yn 2022 wedi tynnu sylw at nifer o’r problemau hyn.

Er enghraifft, pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen i Lywodraeth Cymru greu un gwasanaeth hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth gofal plant. 

Un o brif bryderon y Pwyllgor yw pa mor fregus yw’r sector gofal plant.  Datgelodd arolwg gan sefydliad Blynyddoedd Cynnar Cymru nad oedd dros chwarter y darparwyr yn hyderus y byddai modd iddynt oroesi am flwyddyn arall.

Dywedodd oddeutu 9 o bob 10 nad yw’r fformiwla ariannu ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, sef £5 yr awr, yn talu eu costau. Nid yw’r fformiwla hon wedi cael ei huwchraddio ers 2022.  

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:  

“Wrth wrando ar rieni a gweithwyr gofal plant ledled Cymru, mae’n amlwg bod angen gwelliant sylweddol o ran y system gofal plant, sy’n dameidiog ac yn gymhleth.  

“Rydym am i Lywodraeth Cymru grynhoi’r tair ffrwd ariannu yn un rhaglen cyn gynted ag y bo modd. 

“Mae’r dystiolaeth sy’n deillio o Estonia, y gwledydd Nordig a Chanada, yn ogystal â thystiolaeth arbenigwyr yn y DU, yn pwysleisio mai buddsoddi mewn addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar yw un o’r buddsoddiadau pwysicaf y gall unrhyw wlad ei wneud. Mae darpariaeth gyffredinol integredig yn gyfrwng ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ymhlith plant o aelwydydd incwm is.  

“Rydym yn gobeithio ysbrydoli Llywodraeth Cymru i wneud addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar yn flaenoriaeth ganolog ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.”