Claire O’Shea

Claire O’Shea

Menywod wedi’u siomi gan ymateb Llywodraeth Cymru i’w pryderon am driniaethau canser gynaecolegol

Cyhoeddwyd 15/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru i wella gofal iechyd menywod yn destun siom gan fenywod sydd wedi cael cam yn sgil diffygion gwasanaethau canser gynaecolegol.

Mewn ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, honnodd Llywodraeth Cymru fod y “mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n derbyn gofal canser gynaecolegol yn adrodd lefelau uchel o fodlonrwydd cleifion â gwasanaethau'r GIG yn gyson.”

Mae’r sylwadau wedi peri syndod a siom i rai pobl a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor, sy’n teimlo’n gryf nad ydynt yn cynrychioli eu profiadau nhw, na’u teuluoedd, wedi i’w pryderon am ganser gael eu diystyru dro ar ôl tro gan weithwyr proffesiynol.

Siomedig iawn gyda naws yr ymateb

Dywedodd Sioned Cash o Ynys Môn, y bu farw ei mam, Judith Rowlands, yn fuan ar ôl i’w thystiolaeth gael ei dangos i’r Pwyllgor, fod yr honiadau ar ddechrau ymateb Ysgrifennydd y Cabinet “yn gosod y naws ar gyfer gweddill yr adroddiad, sef naws sy’n diystyru fod yna unrhyw broblemau o gwbl.”

Roedd Claire O'Shea, o Gaerdydd, sydd â Leiomyosarcoma y Groth, sef canser prin a milain, hefyd yn amheus o honiadau Ysgrifennydd y Cabinet; “Fel claf, nid oes, ar unrhyw adeg unrhyw gwestiwn wedi cael ei ofyn i mi am fy moddhad â’r gwasanaethau a gefais.”

Ychwanegodd ei bod yn “siomedig iawn gyda naws (yr ymateb) a’r diffyg ymrwymiadau pendant i unrhyw newid trawsnewidiol i fynd i’r afael â’r heriau a bodloni anghenion menywod yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.”

Galw ar Lywodraeth Cymru ystyried adborth y menwyod

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod ar lawr y Senedd brynhawn dydd Mercher, 15 Mai, pan fydd Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cael ei galw i ymhelaethu ar rai o’i hymatebion ac i ystyried adborth y menywod.

Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried sylwadau’r menywod, ac yn cynnig rhywfaint o sicrwydd i’r rhai a fu’n ddewr yn rhannu eu profiadau gyda ni. 

“Yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru mae sawl maes y mae angen edrych yn ofalus ac yn fanylach arnynt yn ystod y ddadl hon. Mae’r oedi i gyflawni Cynllun Iechyd Menywod Cymru, y gwaith i adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig COVID-19 a’r nifer annerbyniol o bobl sy’n cael diagnosis drwy gael eu derbyn fel achosion brys oll yn peri pryder.

“Yn arwyddocaol, er i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn 24 o argymhellion ein hadroddiad, naill ai’n llawn neu’n rhannol, nid yw ei hymateb yn ymrwymo i ddarparu unrhyw gyllid ychwanegol.

“Yn bersonol, yr ymchwiliad hwn fu un o’r ymchwiliadau mwyaf emosiynol i mi fod yn rhan ohono yn fy amser fel Aelod o’r Senedd. Hoffwn ailadrodd fy ngwerthfawrogiad a’m diolch i’r holl fenywod anhygoel a’n cynorthwyodd gyda’n gwaith.

“Bob blwyddyn, mae oddeutu 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru. Mae tua 470 o bobl yn marw o ganserau gynaecolegol yng Nghymru bob blwyddyn, cyfradd uwch na chyfartaledd y DU. Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn sicrhau’r newidiadau y mae dirfawr eu hangen i wella profiadau menywod yn y dyfodol.”

 


Mwy am y stori hon 

Darllenwch am yr adroddiad a'r menywod a rannodd eu straeon â'r ymchwiliad Wedi'u diystyru, eu bychanu a heb lais: Pryderon canser menywod ddim yn cael eu cymryd o ddifrif

Ymchwiliad: Canserau gynaecolegol