Mae diffyg cymorth i fenywod sy’n aildroseddu – adroddiad y Senedd

Cyhoeddwyd 09/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae angen mwy o gymorth ar fenywod Cymru i aros allan o’r carchar, yn ôl adroddiad gan y Senedd.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol bellach yn galw am ddatganoli'r cyfrifoldeb dros sut mae menywod yn ymwneud â’r system gyfiawnder troseddol i Lywodraeth Cymru.

Canfu'r Pwyllgor fod dedfrydau carchar mor fyr ag wythnos yn arferol, er nad ydynt yn cynnig cyfle i adsefydlu.

A chan nad oes carchardai i fenywod yng Nghymru, mae'r effaith ar deuluoedd yn cael ei theimlo'n gryf - bydd menywod yn y ddalfa 100 milltir o'u cartref ar gyfartaledd, gan ychwanegu costau a phwysau o ran amser ar famau.

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:

"Mae ein hymchwiliad yn cadarnhau nad yw'r system cyfiawnder troseddol ar ei ffurf bresennol yn diwallu anghenion menywod o Gymru. Er gwaethaf cytundeb cyffredinol fod dedfrydau byr o garchar am droseddau di-drais yn wrthgynhyrchiol ac mewn gwirionedd yn cynyddu'r tebygolrwydd o aildroseddu, nid oes digon o gynnydd yn cael ei wneud ac mae argaeledd cyfyngedig ac anghyson dewisiadau amgen yn y gymuned yn her benodol.

“Cawsom ein synnu o ddysgu bod dedfrydau byr o garchar, hyd yn oed mor fyr ag wythnos, yn parhau er nad oes ganddynt fawr ddim budd. Mae hyn yn ddigon o amser i fenyw golli ei chartref, ei swydd, a’i theulu; ond ddim yn ddigon o amser ar gyfer unrhyw ymyriad ystyrlon sy’n anelu at adsefydlu neu fynd i’r afael â materion sylfaenol.

“Rydym yn cydnabod bod rhai menywod yn y carchar oherwydd difrifoldeb eu troseddau. Fodd bynnag, mae effaith andwyol dedfrydau byr o garchar ar fenywod yn benodol yn glir. Maent yn drawmatig nid yn unig i'r menywod, ond hefyd i'w plant. Maent hefyd yn hynod ddrud ac maent yn arwain at ganlyniadau gwael iawn.

“Yn 2007, galwodd adroddiad nodedig gan y Farwnes Corston am ymagwedd cwbl wahanol ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Dros 15 mlynedd yn ddiweddarach, siomedig o araf fu’r cynnydd o ran gweithredu argymhellion Corston. Ond rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion a nodir yn ein hadroddiad yn helpu i gyflymu’r broses o gyflawni’r weledigaeth honno a rhoi terfyn ar y cylch o drawma a gwastraff arian cyhoeddus.”

Cymorth Llety

Ystyriodd ymchwiliad y Pwyllgor ddata a gasglwyd gan Women in Prison, sy’n tynnu sylw at y realiti llwm i fenywod pan fyddant yn gadael y carchar.

Mae’r ffigurau hynny’n dangos y bydd 56.1 y cant o fenywod sydd wedi bwrw dedfryd o garchar yn aildroseddu o fewn blwyddyn. Mae’r ffigur hwn yn codi i 70.7 y cant o fenywod sydd wedi’u rhyddhau yn dilyn dedfryd fer o garchar am lai na 12 mis.

Dywedodd cyfranwyr mewn grŵp ffocws wrth y Pwyllgor mai diffyg cymorth oedd y prif reswm dros aildroseddu. Dywedodd un cyfrannwr:

“Rwy’n teimlo y dylen ni, fel carcharorion, gael mwy o wasanaethau . . . Yn aml iawn byddaf yn meddwl, pam na alla’ i fynd yn ôl? Roeddwn i'n ddiogel yno [y carchar], roedd gen i bobl o'm cwmpas, roedd fy iechyd meddwl yn well.”


Clywodd y Pwyllgor bryderon dro ar ôl tro am y diffyg llety yn benodol, a nodwn fod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i’r afael â hyn.

O ystyried bod menywod sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar yn grŵp o bobl sy’n agored iawn i niwed, mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn dylanwadu ar ddarpariaeth llety yn y dyfodol. 

Datganoli Cyfrifoldeb

Canfu’r ymchwiliad hefyd y gallai rhwystredigaeth ynghylch cyfyngiadau’r hyn sydd o fewn grym Llywodraeth Cymru fod yn llesteirio cynnydd. Gofynnodd y Pwyllgor pa mor gynaliadwy yw’r trefniadau presennol yn y tymor hwy gan dynnu sylw at sylwadau gan y Prif Weinidog am “berygl moesol” o ddarparu cyllid ar gyfer mentrau cyfiawnder nad ydynt wedi’u datganoli.

Tra nad yw carchardai, y llysoedd a pharôl wedi eu datganoli, mae Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am rai gwasanaethau sy'n gorgyffwrdd â'r system gyfiawnder, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, iechyd corfforol a meddyliol, a thai.

Mae llwyddiant y gwasanaethau hyn yn dibynnu ar waith partneriaeth ar draws meysydd datganoledig a’r rhai nad ydynt wedi’u datganoli.

Er mwyn galluogi Cymru i weithredu ei ffordd ei hun yn y maes hwn, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau cyfrifoldeb datganoledig dros sut mae menywod yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, a fyddai’n caniatáu iddi bennu ei pholisi ei hun ar ddedfrydu menywod ac adsefydlu.

 


 

Mwy am y stori hon

Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol  Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol