Heddiw mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i weithio'n agosach â Busnesau Bach a Chanolig i helpu i fynd i'r afael â 'thrapiau sgiliau isel', sy’n arwain at gyflogau isel a chynhyrchiant isel.
Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn gyfrifol am ddadansoddi'r economi a meysydd twf tebygol i nodi'r sgiliau sydd eu hangen ar weithlu Cymru. Mae ganddynt ddylanwad ar bron i £400 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau hyfforddi, a maent yn medru gwneud argymhellion a all effeithio ar ddegau o filoedd o ddysgwyr a chyflogwyr. Fe wnaeth y Pwyllgor gynnal ymchwiliad i edrych ar y partneriaethau hyn oherwydd eu rôl ganolog gynyddol yn addysg a pholisi economaidd Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad y Pwyllgor heddiw yn cynnwys argymhellion i egluro rôl Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a gwella eu ffocws ar drapiau sgiliau isel. Mae hefyd yn amlinellu sut y bydd sefydlu partneriaethau pellach â phrifysgolion a darparwyr prentisiaethau yn grymuso Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn eu rôl allweddol o gynghori Llywodraeth Cymru ynghylch lleihau prinder sgiliau ac ennyn cyflogwyr i alw am swyddi sgiliau uchel. Wrth wneud eu rôl yn gliriach, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid ailenwi Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn Fyrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol.
Trapiau sgiliau isel
Mae rhannau o economi Cymru yn dioddef o drapiau sgiliau isel, gan arwain at arafu galw cyflogwyr am sgiliau uwch ynghyd â gweithlu sgiliau isel sydd â fawr o gymhelliant i uwchsgilio. O ganlyniad, ceir cyflogau isel a chynhyrchiant isel. Mae’r Pwyllgor yn credu nad cynyddu lefel cymwyseddau cyffredinol y boblogaeth a diwallu anghenion sgiliau ar unwaith yw’r unig her i Gymru, ond mae hefyd angen ennyn galw cyflogwyr i ofyn am sgiliau ar lefel uwch. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Byrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol newydd ganolbwyntio'n benodol ar drapiau sgiliau isel.
Ymgysylltu â busnesau bach
Mae gweithio gyda phob math o gyflogwyr yn hanfodol i ddeall eu hanghenion sgiliau ac i ennyn galw am weithluoedd â sgiliau uwch. Yn ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan arbenigwyr yn egluro bod llawer o’r ymgysylltiad a wneir gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol gyda chyflogwyr yn canolbwyntio ar fusnesau a sefydliadau mawr sydd â'r staff a'r amser i fynychu eu cyfarfodydd. Fodd bynnag, mae busnesau bach a chanolig yn rhan sylweddol o economi Cymru a chlywodd y Pwyllgor bryderon nad yw lleisiau’r busnesau hynny'n cael eu clywed.
Mae ymgysylltu â busnesau bach niferus ledled Cymru yn her sylweddol, ond mae'r Pwyllgor o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei rhwydwaith darparu prentisiaethau sy’n werth £132 miliwn. Mae’r rhwydweithiau'n meddu ar gysylltiadau helaeth â chyflogwyr a busnesau bach a chanolig i helpu'r Byrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol newydd i ddeall anghenion sgiliau rhanbarthol yn well, a lleihau prinder sgiliau.
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:
“Mae trapiau sgiliau isel yn felltith ar fywydau pobl yng Nghymru, gan rwystro cynnydd ac atal arloesedd. Er bod cyfartaledd lefelau cymwysterau yn cynyddu yng Nghymru, clywsom fod rhannau o’r economi’n parhau i fod mewn “trapiau sgiliau isel” lle nad oes angen y sgiliau lefel uwch hyn ar gyflogwyr neu nad ydynt yn eu gwerthfawrogi; mae hyn yn ei dro yn rhwystro cynnydd ac nid yw’n cynnig yr ysgogiad i gyflogwyr i fuddsoddi mewn gweithlu â sgiliau uchel. O ganlyniad, me’r cylch yn un dieflig, sy'n golygu bod ein heconomi yn dod i stop a phobl yn gorfod aros mewn swyddi incwm isel.
“Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn gwneud argymhellion sy’n dylanwadu ar y ffordd y caiff arian y trethdalwr ei wario, gyda’r nod o uwchsgilio ein gweithlu. Rhaid iddynt weithio i fynd i'r afael â thrapiau sgiliau isel a chael cefnogaeth well wrth ymgysylltu â'r busnes bach a chanolig sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o swyddi yng Nghymru. Rhaid inni gael y pethau sylfaenol yn iawn a chlywed lleisiau’r busnesau hynny, a gweithio gyda nhw i gael gwared ar y trapiau sgiliau isel.
“Er mwyn inni symud yr economi yn ei blaen, rhaid i’n gweithlu fod yn barod ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr, ac yn ei dro dylid annog a chefnogi cyflogwyr i greu swyddi sgiliau uchel â chyflog uchel. Mae'n her y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Byrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol newydd ei hwynebu."
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol FSB Cymru:
“Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor ar Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, yn enwedig o ran y pwyslais ar well ymgysylltiad rhwng Partneriaethau a busnesau bach a chanolig Cymru.
“Yn nhystiolaeth FSB Cymru i’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn gynharach eleni, gwnaethom argymell y byddai Partneriaethau yn elwa o gael eglurhad o’r rôl, ac argymhellwyd y dylid cynnal rhagor o ddigwyddiadau ymgynghori â busnesau bach a chanolig yn eu rhanbarthau i’w helpu i ddeall sut y gallant ddylanwadu’n uniongyrchol ar y ddarpariaeth sgiliau. Byddai hyn yn helpu Partneriaethau i ddod yn fwy hygyrch i fusnesau bach a chanolig, er ei bod yn bwysig cofio bod yn rhaid i’r Partneriaethau gael adnoddau priodol ar gyfer hyn i allu bod yn effeithiol.
“Mae gennym gyfle i sicrhau bod llawer mwy o gyfle i gwmnïau bach yng Nghymru ymgysylltu â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, i fynd i’r afael â thrapiau sgiliau isel ac i gyflawni datblygiad economaidd rhanbarthol a fydd yn ei dro yn hybu cyflogau a chynhyrchiant.”