Ni ddylid rhoi taflen i gleifion sy'n mynd drwy argyfwng iechyd meddwl ac ni ddylid disgwyl iddynt drefnu gofal eu hunain

Cyhoeddwyd 12/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/09/2019

Ni ddylid disgwyl i bobl sy'n mynd drwy argyfwng iechyd meddwl drefnu eu gofal eu hunain, yn ôl Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol.


Mae'r Pwyllgor wedi ymateb i ddeiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch i bobl sydd eu hangen.

Dywedodd Laura Williams o Gaerdydd, a gyflwynodd y ddeiseb, wrth y Pwyllgor am ei phrofiadau ei hun:

"Wyth mis—ni ddylech fod yn aros wyth mis. Es yn ôl at fy meddyg, roeddwn i'n hunan-niweidio a dyma fy meddyg yn gofyn, 'A wyt ti am wneud hyn eto?' a dywedais 'ydw'. Yna dywedodd, 'Dyma daflen y tîm argyfwng; cer adref a'u ffonio.' Tydw i ddim am i bobl gael taflen, 'Cer adref; ffonia di nhw.' Dydyn nhw ddim yn mynd i'w ffonio. Dydyn nhw ddim mewn cyflwr meddwl i'w ffonio. Hoffwn i feddygon teulu beidio rhoi taflenni ac iddynt wneud y trefniadau ar ran y claf. Os ydyn nhw'n gweld nad ydyn nhw'n ffit, mae angen help arnyn nhw yn y fan a'r lle, nid wyth mis yn ddiweddarach."

Codwyd pryderon ynghylch y diffyg data cadarn ynghylch faint o amser y mae rhai pobl yn aros i gael gafael ar wasanaethau arbenigol, yn ogystal â phryderon ynghylch lefel ymwybyddiaeth iechyd meddwl ymhlith rhai meddygon teulu, sydd yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf i bobl sy'n chwilio am gymorth.

Nodwyd mor anodd yw cael gafael ar therapi un-i-un hefyd, gyda phobl yn aml yn cael eu cyfeirio at sesiynau grŵp nad ydynt bob amser yn briodol.

"Mae darparu gofal iechyd meddwl bellach yn rhan hanfodol o'r GIG, ond mae'r Pwyllgor Deisebau wedi clywed tystiolaeth sy'n dangos bod gwasanaethau'n dal i fod heb ddigon o adnoddau, heb ddigon o ddealltwriaeth am iechyd meddwl a chyda gormod o ddryswch ynghylch chwilio am y gwasanaethau cywir," meddai Janet Finch-Saunders AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

"Mae'r syniad bod rhywun sy'n dioddef o argyfwng iechyd meddwl yn cael taflen a bod disgwyl iddo drefnu ei ofal ei hun yn peri gofid ac yn annerbyniol.

"Hoffwn ddiolch i'r deisebydd am fod yn ddigon dewr i godi'r mater hwn ac am adrodd ei stori.

"Mae profiadau Ms Williams, tystiolaeth ehangach a gafodd y Pwyllgor gan elusennau iechyd meddwl, a gwaith arall a wnaed yn ddiweddar gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad i gyd yn dangos bod rhai pobl yng Nghymru yn dal i'w chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, yn enwedig ar adegau o argyfwng.

"Rydyn ni wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sut mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu i bobl sydd eu hangen, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael ymateb."

Gwnaeth y Pwyllgor saith argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu mynediad at ofal argyfwng a sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a staff eraill mewn cysylltiad uniongyrchol â chleifion, yn ddigon eglur ynghylch beth yw argyfwng iechyd meddwl; a,
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd rheng flaen, fel meddygon teulu, yn rhagweithiol wrth drefnu cymorth i gleifion sy'n mynd drwy argyfwng iechyd meddwl.
  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu trefniadau mynediad at therapïau seicolegol a chymryd camau priodol i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar waith ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer therapi un-i-un pan fo angen.

Nawr, bydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch (PDF, 211 KB)