Nid yw sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg Cymru yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad
28 Ionawr 2011
Mae angen gweithredu ar y cyd i ddatblygu sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) pobl ifanc, yn ôl Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad yn amlygu nifer o faterion sydd angen sylw er mwyn datblygu sgiliau STEM yng Nghymru, gan gynnwys diffyg athrawon arbenigol o safon, perfformiad gwael gan fyfyrwyr a chanfyddiadau negyddol o’r pynciau STEM.
Mae’r dystiolaeth a gafwyd gan y Pwyllgor yn dangos bod cyfran y dysgwyr sy’n astudio gwyddoniaeth a mathemateg ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru yn sylweddol is nag yng ngweddill y DU, a bod dysgu gwyddoniaeth gyfunol yn hytrach na phynciau gwyddonol ar wahân ar lefel TGAU yn profi’n aneffeithiol.
Mae’r adroddiad yn nodi bod y problemau hyn yn arwain at ddiffyg sgiliau gwyddonol ymarferol a chymhwysol ar lefel addysg bellach ac uwch, a diffyg sgiliau sylfaenol ymysg graddedigion STEM sy’n dilyn gyrfa yn y diwydiant.
Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i recriwtio a chadw athrawon arbenigol, a’i bod yn rhoi gwell cymorth i’r rheini sy’n dysgu y tu allan i’w harbenigedd.
Mae’r adroddiad hefyd yn herio’r Llywodraeth a diwydiant i fynd i’r afael â’r ystrydebau o ran rhyw ac anghydraddoldebau mewn pynciau STEM, ac mae’n argymell bod y Llywodraeth yn sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at gyngor annibynnol a gwybodus wrth iddynt wneud penderfyniadau am bynciau a gyrfaoedd STEM.
Rhai o’r pryderon eraill a godir yw’r angen am bartneriaethau strategol rhwng ysgolion a chyflogwyr er mwyn darparu lleoliadau gwaith ymarferol i ddisgyblion, athrawon a diwydianwyr, ac aliniad gwell rhwng y cyflenwad a’r galw am sgiliau STEM.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Er ein bod yn croesawu penodi Prif Gynghorydd Gwyddonol gan Lywodraeth Cymru i oruchwylio’r agenda STEM, mae nifer o faterion yn ein hymchwiliad sy’n peri pryder i ni.
“Mae pynciau STEM yn dal i ddioddef o ganfyddiadau gwael, nid yn unig ymhlith disgyblion, ond hefyd ymhlith athrawon ac awdurdodau ysgolion. Mae angen gwella hyn, fel bod y pynciau yn fwy deniadol.
“Clywsom hefyd fod ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth yn y pynciau hyn yn aml yn eisiau. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio i annog disgyblion i astudio pynciau STEM o oedran cynnar, i gynnal llif digonol o fyfyrwyr sydd â’r cymwysterau priodol i fynd i’r coleg neu brifysgol, ac i alluogi graddedigion STEM i fynd ymlaen i yrfaoedd sy’n bwysig o ran datblygiad economaidd Cymru.
“Nid ydym yn diystyru’r heriau sy’n wynebu Cymru, ac rydym yn sylweddoli na fydd y llwyddiant hwnnw yn digwydd dros nos. Rydym hefyd yn argyhoeddedig bod Llywodraeth Cymru, drwy’r Prif Gynghorydd Gwyddonol a’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, wedi ymrwymo i sicrhau cynnydd yn y meysydd hyn.
“Fodd bynnag, rhaid i’r gwaith fod yn fwy penodol ac wedi’i dargedu er mwyn creu economi ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru sy’n seiliedig ar wybodaeth.