Nod cyffredin - datganiad ar y cyd ar wella'r gynrychiolaeth o fenywod mewn bywyd cyhoeddus

Cyhoeddwyd 23/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Ar 25 Mehefin, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llofnodi ymrwymiad ar y cyd i wella'r gynrychiolaeth o fenywod mewn bywyd cyhoeddus.

Mae'r tri sefydliad eisoes wedi gweithredu rhaglenni strategol i fynd i'r afael â phrinder menywod mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru, ond mae pob sefydliad yn derbyn bod angen gwneud mwy.

Caiff datganiad ar y cyd ei lofnodi yn y Cynulliad am 09:00 gan y canlynol:

  • Y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd;

  • Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; a'r

  • Cynghorydd Ellen ap Gwynn, llefarydd CLlLC ar Gydraddoldeb a Heneiddio'n Egnïol.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Ar ôl i mi dderbyn yr anrhydedd o gael fy ethol yn Llywydd yn y Cynulliad Cenedlaethol yn 2012, fe wnes i ymrwymiad i arwain ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau a gweithredu i fynd i'r afael â phrinder menywod dylanwadol, a menywod sy'n gwneud penderfyniadau, yng Nghymru.

"Dechreuodd fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus yn 2011 gyda chyfres o seminarau ledled Cymru a oedd yn edrych ar y rhwystrau i wella'r gynrychiolaeth o fenywod.

"O ganlyniad i'r trafodaethau hynny, rwyf wedi sefydlu porth ar y we a chynllun datblygu i roi'r wybodaeth, yr hyder a'r gefnogaeth i fenywod wneud cais am swyddi cyhoeddus.

"Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad i ystyried y camau i'w cymryd er mwyn sicrhau bod mwy o fenywod yn sefyll yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

"Gwn fod Llywodraeth Cymru a CLlLC hefyd wedi gweithredu rhaglenni strategol i fynd i'r afael â'r mater hwn ond drwy lofnodi'r datganiad hwn ar y cyd heddiw, rydym yn sicrhau bod y mater yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar yr agenda wleidyddol."

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Ceredigion), Llefarydd CLlLC ar gyfer Cydraddoldeb a Heneiddio'n Egnïol:

"Er bod menywod yn cyfrif am dros hanner y boblogaeth yng Nghymru, dim ond tua 27 y cant o'n cynghorwyr lleol sy'n fenywod. Mae hwn yn anghydbwysedd y mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ef. Bydd yr ymrwymiad a lofnodir heddiw gyda Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn helpu i adeiladu ar yr ymrwymiad sydd eisoes wedi'i gytuno gan 22 o arweinwyr cynghorau Cymru o ran cyflawni'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad diweddar 'Ar ôl pwyso a mesur', sy'n ceisio gwella amrywiaeth mewn democratiaeth leol cyn yr etholiadau nesaf.

"Fel arweinydd cyngor, rwy'n gwybod bod cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn gallu bod yn anodd, ond mae'n waith sy'n rhoi boddhad hefyd. Mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y gefnogaeth gywir ar gael i annog mwy o fenywod i ymgeisio am swyddi cyhoeddus a'u bod yn cael cefnogaeth wedi iddynt gael eu hethol neu eu penodi. Mae llawer o gynghorau eisoes yn adolygu sut y caiff cyfarfodydd eu cynnal er mwyn gwella mynediad ac ymgysylltiad, gyda chynghorwyr a chymunedau lleol, ac mae cynghorau hefyd yn trafod sut y gall technolegau newydd, arferion gweithio a mathau eraill o gefnogaeth oresgyn rhai o'r rhwystrau traddodiadol sy'n wynebu menywod sy'n cyflawni rolau arweinyddiaeth cyhoeddus.

"Mae sicrhau bod gwleidyddion ac arweinwyr dinesig yn gynrychiadol o gymunedau cynyddol amrywiol Cymru yn hollbwysig o ran democratiaeth leol, ac mae sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd yn flaenoriaeth i bob cyngor yng Nghymru."

Dywedodd Jeff Cuthbert, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a fydd hefyd yn llofnodi'r datganiad ar y cyd: "Mae gwella cyfranogiad pob grwp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn penodiadau cyhoeddus yn ymrwymiad allweddol i'r llywodraeth hon.

"Rydym yn gweithio gyda Chadeiryddion Byrddau'r Sector Cyhoeddus i wneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ystyried gwneud cais am benodiadau cyhoeddus, gyda'r gobaith yn y pen draw o sicrhau bod byrddau yng Nghymru yn fwy amrywiol a chynrychiadol.

"Bydd cynrychiolaeth well yn sicrhau Gweinidogion a'r cyhoedd bod amrywiaeth o brofiad a barn wrth wneud penderfyniadau. Bydd yn sicrhau bod byrddau cyrff cyhoeddus yn ennyn hyder y cyhoedd gan eu bod yn adlewyrchu'r bobl y maent yn eu gwasanaethu."