Nodi 20 mlynedd ers i bobl Cymru ddweud ‘ie’ i ddatganoli

Cyhoeddwyd 18/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​20 mlynedd ers i bobl Cymru ddweud 'ie' yn y refferendwm i greu'r Cynulliad Cenedlaethol, bydd grŵp o bobl ifanc, y bu'r sefydliad yn rhan o'u bywyd erioed, yn ymweld â'r Senedd (ddydd Llun 18 Medi) ac yn cwrdd ag Elin Jones AC, y Llywydd.

Bydd cynrychiolwyr o'r 'genhedlaeth ddatganoli' yn cymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda'r Llywydd, a byddant yn cael taith o amgylch adeilad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.

Ym 1997, aeth pobl Cymru i'r gorsafoedd pleidleisio a phleidleisio o blaid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ers hynny, enillodd y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a phleidleisiodd pobl Cymru eto yn 2011 i ryddhau rhagor o bwerau o San Steffan.

Mae Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017 wedi arwain at ehangu cyfrifoldebau'r Cynulliad ymhellach i gynnwys pwerau codi trethi am y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd.

Mae deddfau arwyddocaol a basiwyd gan y Cynulliad yn cynnwys mabwysiadu system o ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, a lefelau staffio lleiaf ar wardiau ysbytai, tra bod deiseb yn galw am waharddiad ar fagiau siopa untro wedi arwain at dâl o 5c am fagiau, gan leihau'r defnydd ohonynt yn fawr ac arwain at fabwysiadu'r un drefn ledled y DU.

I nodi'r achlysur, bydd oddeutu 70 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn Sesiwn Holi ac Ateb gydag Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd pynciau sy'n cynnwys oedran pleidleisio, senedd ieuenctid a dyfodol y Cynulliad yn cael eu trafod.

Dywedodd Elin Jones AC:

"Mae cefnogaeth i ddatganoli a'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru. Ym 1997, roedd y bleidlais o blaid datganoli yn agos iawn, ond, canfu pôl piniwn Dydd Gŵyl Dewi gan BBC Cymru yn 2017 bod 73 y cant o bobl naill ai'n dweud y dylai pwerau'r Cynulliad gynyddu neu fod ei bwerau'n ddigonol.

"Ein blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol yw sicrhau bod gennym senedd sydd mewn sefyllfa dda i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif; senedd sy'n gyfartal â'r seneddau eraill ledled y DU."

Mae'r Sesiwn Holi ac Ateb yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy'n nodi 20 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli, sy'n cynnwys y digwyddiadau a ganlyn:

  • Cynhadledd, y Sefydliad Materion Cymreig ar ddatganoli, 'Wales said yes', sy'n cynnwys trafodaeth ar 'The changing face of the Chamber', Canolfan Mileniwm Cymru, 18 Medi 2017
  • Digwyddiad lansio 'Pen ar y Bloc' gan Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, sydd wedi bod yn cyflwyno adroddiadau am y Cynulliad ers y Refferendwm ym 1997 - Y Senedd, 19 Medi 2017

Hefyd bydd tîm allgymorth Adran Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld ag ysgolion yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin a Chwm Cynon.

Sut y mae deddfwriaeth y Cynulliad wedi newid Cymru a'r DU:

  • Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig; 
  • Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael sgwrs genedlaethol am newid cyfraith rhoi organau, ac i basio deddfwriaeth sy'n cyflwyno'r system feddal o optio allan. Erbyn hyn, mae'r Alban a Lloegr yn ystyried dilyn ein hesiampl;
  • Deddf Lefelau Staff Nyrsio, a gyflwynwyd gan Kirsty Williams AC, oedd y ddeddfwriaeth gyntaf o'i bath yn y DU ac yn Ewrop. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r GIG gymryd camau i gyfrif a chynnal lefelau staffio nyrsys mewn wardiau meddygol acíwt a wardiau llawfeddygol cleifion mewnol;
  • Roedd mesur arfaethedig Aelod, a gyflwynwyd gan Ann Jones AC, sydd bellach yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad, yn ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a adeiladwyd yng Nghymru gael system chwistrellu;
  • Drwy broses y Pwyllgor Deisebau, yn wreiddiol, y cynigiwyd y taliad o 5c ar fagiau siopa untro, ac fe aeth ymlaen i ddod yn ddeddfwriaeth drwy'r Cynulliad.  Ar 1 Hydref 2011, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i ddechrau codi tâl am fagiau siopa untro. Mae eraill wedi ei dilyn.
  • Ar adeg pan oedd hyder y cyhoedd mewn gwleidyddion ar ei isaf, cymerodd y Cynulliad y cam radical, yn 2008, i adolygu ei drefniadau ar gyfer pennu tâl a lwfansau'r Aelodau. Sefydlwyd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Cynulliad yn 2010, i bennu cyflogau a lwfansau'r Aelodau.  
  • Yn 2013, pasiodd y Cynulliad gyfraith a oedd yn cadarnhau'r Gymraeg a'r Saesneg fel ieithoedd swyddogol y Cynulliad, gan roi dyletswydd statudol arno ef ei hun i ddarparu gwasanaethau i'r Aelodau a'r cyhoedd yn yr iaith swyddogol o'u dewis.