Penodiadau cyhoeddus: Methiannau yn strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant

Cyhoeddwyd 27/03/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/03/2025

Mae Llywodraeth Cymru yn methu â recriwtio'r ystod ehangaf o dalent ar gyfer swyddi cyhoeddus hanfodol, gan nad yw’n gallu denu ymgeiswyr amrywiol o bob cwr o Gymru.  

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi beirniadu proses recriwtio anhygyrch, sy’n canolbwyntio ar ymgeiswyr o'r un gronfa o bobl sydd fel arfer o ardal Caerdydd, mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 27 Mawrth 2025. 

Mae'r adroddiad yn datgelu cyfres o broblemau gyda’r ffordd y mae penodiadau Llywodraeth Cymru yn cael ei gweinyddu, sy’n cael ei hategu gan broblemau yn ei Huned Cyrff Cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg strategaeth neu ymwybyddiaeth o swyddi gwag ac mae llawer o’r rhai sy’n cael eu penodi, neu sy’n gwneud cais am swydd gyhoeddus, yn dweud nad oeddent yn ymwybodol o fodolaeth yr Uned.

Ar ben hynny, nid yw’r amcanion a’r camau gweithredu allweddol sydd yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y llywodraeth ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yn cael eu cyflawni, er iddi gael ei chanmol fel “blaenoriaeth weinidogol” pan gafodd ei chyhoeddi yn 2020. Daeth y strategaeth i ben yn 2023, ac nid oes unrhyw gynllun cyfredol i’w disodli.

Mae penodiadau cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol o ran goruchwylio’r gwaith o ddarparu a llywodraethu gwasanaethau cyhoeddus allweddol, fel cadeirydd neu aelodau bwrdd mewn meysydd fel iechyd, diwylliant, chwaraeon, treftadaeth neu drafnidiaeth. Mae'r Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn benodiadau cyhoeddus. 

Anhygyrch ac anhyblyg

Clywodd y Pwyllgor gan bobl a oedd wedi gwneud rolau cyhoeddus neu sydd wedi bod drwy'r broses ymgeisio. Dywedodd llawer am yr anhawster o gael gafael ar wybodaeth am swyddi, gan awgrymu bod gwneud cais yn ‘gelfyddyd’, sy'n gofyn am ffurf o eiriau sy’n cael eu defnyddio gan ‘y gwybodusion’ yn unig.

Roedd materion o ran cael gafael ar ddogfennau a ffurflenni, tâl a diffyg hyblygrwydd swyddi er mwyn i bobl gyflawni cyfrifoldebau gofalu neu addasiadau ar gyfer hygyrchedd, hefyd yn atal denu ymgeiswyr amrywiol.

Mae Damian Bridgeman wedi gwneud nifer o rolau cyhoeddus gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ers 2014, ac ar hyn o bryd fel rôl a benodwyd yn gyhoeddus gydag Adran Drafnidiaeth y DU. Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor, esboniodd Damian, sydd â pharlys yr ymennydd, y rhwystrau y daeth ef ar eu traws yn y broses.

“Rwy’n wirioneddol gredu bod angen i bobl anabl gael lleisiau cynrychioliadol sy’n adlewyrchu cymdeithas yng nghoridorau pŵer. Dyna pam y penderfynais gamu i fywyd cyhoeddus.

“Ond, wrth drafod addasiadau rhesymol, mae pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd angen llawer o ofal arnoch, ond y cyfan sydd ei angen arnaf i mewn gwirionedd yw rhywun i’m helpu i gymryd fy nodiadau fy hun. Mater arall, er enghraifft, yw nad yw’r system ymgeisio yn gweithio gyda meddalwedd darllenwyr sgrin. Yn ffodus i mi, rydw i’n gwybod ac yn gallu dweud wrth Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn union beth sydd ei angen arnaf, ond roedd yn amlwg nad oedden nhw’n gwybod pa addasiadau oedd ar gael i'w cynnig. Roedd cael cefnogaeth yn eithaf anodd, mewn gwirionedd.

“Drwy gydol y broses rwyf wedi gorfod bod yn fodlon gofyn, ac mae yna nifer o bobl anabl na fydd yn gofyn am addasiadau rhesymol oherwydd eu bod nhw’n meddwl y bydd hynny’n cyfri yn eu herbyn nhw wrth wneud cais am benodiadau cyhoeddus.”

Comisiynydd i Gymru?

Yn ogystal â phryderon am weinyddiaeth Llywodraeth Cymru, nid yw’r Pwyllgor wedi’i argyhoeddi bod yr amser a neilltuwyd i Gymru gan Gomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus Cymru a Lloegr yn ddigon i sicrhau newidiadau mawr eu hangen.

Mewn adroddiad atodol, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, mae'r Pwyllgor yn galw am greu Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus pwrpasol i Gymru; rôl a fydd yn dod ag ymrwymiad parhaol i wella ansawdd penodiadau yn y tymor hir.

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:

“Mae ein hymchwiliad wedi datgelu cyfres o fethiannau yn null Llywodraeth Cymru o ganfod ymgeiswyr amrywiol o safon ar gyfer penodiadau yn y sector cyhoeddus. Mae'n warthus bod y strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi dod i ben ers dros flwyddyn ac na fu unrhyw werthusiad, ymgynghoriad, camau gweithredu, na hyd yn oed gynllun i greu strategaeth newydd. Mae'n tynnu sylw at broblemau llawer dyfnach ym mheirianwaith Llywodraeth Cymru a'i phrosesau gweinyddu, yn enwedig y dryswch ynglŷn â rôl yr Uned Cyrff Cyhoeddus.

“Ar sail y dystiolaeth a glywsom am y broses recriwtio, nid ydym wedi’n hargyhoeddi bod digon yn cael ei wneud i ddatblygu cyflenwad o dalent ar gyfer penodiadau cyhoeddus. Rhaid i Lywodraeth Cymru wella ei dull o annog a chefnogi unigolion drwy gydol y broses ymgeisio a thu hwnt. 

“Mae'n amlwg bod methiannau hefyd o ran y Comisiynydd yn goruchwylio’r system ac, mewn byd datganoledig, nid yw Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr bellach yn addas i'r diben. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i Gymru fel buddsoddiad hirdymor yn nyfodol y wlad. Gellid cyfuno’r rôl hon â rôl Comisiynydd presennol, i fod mor gost-effeithiol â phosibl.

“Mae penodiadau cyhoeddus yn bwysig a dylent roi cyfle i’r rhai o ystod o gefndiroedd amrywiol gyfrannu at gyfarwyddo a rheoli gwasanaethau cyhoeddus a bod yn rhan allweddol o’r broses atebolrwydd a llywodraethu. Rhaid inni gael mynediad at dalent o bob rhan o Gymru, a sicrhau cyfle cyfartal, waeth beth fo cefndir person.”

Lawrlwythwch yr addrodiadau

Penodiadau Cyhoeddus:

Lawrlwythwch Nawr

 

Comisiynydd i Gymru?

Comisiynydd i Gymru?

Ymchwiliad: Penodiadau Cyhoeddus