Mae Pwyllgor yn y Senedd yn dweud ei fod yn pryderu’n fawr am gynllun Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau nifer y digwyddiadau llygredd categori isel y mae'n ymateb iddynt.
Mae gwaith craffu blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith mewn perthynas â’r corff diogelu amgylcheddol yn tynnu sylw at sawl agwedd o’i waith sy’n destun pryder, gan gynnwys sut y mae'n bwriadu monitro pethau fel tipio anghyfreithlon, dympio cemegau anghyfreithlon a llygredd dŵr.
'Goddefgarwch uwch o risg'
Cynllun newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yw canolbwyntio ar ddigwyddiadau mwy a mabwysiadu 'goddefgarwch uwch o risg' o ran y modd y mae’n rheoli adroddiadau am lygredd yng Nghymru.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod blynyddoedd o danfuddsoddi wedi ymestyn Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhy denau, gan nodi nad yw'r corff yn cael ei ariannu'n ddigonol i wneud gwaith gorfodi ym maes troseddau amgylcheddol yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod unrhyw ostyngiad pellach yng ngallu'r corff diogelu i ymateb yn destun pryder.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor nad yw'r lefelau presennol o ddirwyon a sancsiynau sydd ar gael iddo yn ddigonol i gael yr effaith a ddymunir ar lygrwyr. O ganlyniad, mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn galw ar y corff i egluro pa ddirwyon sy’n rhy isel iddo allu cyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio amgylcheddol yn effeithiol.
Ailagor canolfannau ymwelwyr
Ym mis Mawrth eleni, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gau canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian mewn ymdrech i dorri costau. Er bod y rheoleiddiwr wedi ymrwymo i ailagor canolfannau ymwelwyr, nid oes amserlen glir ar gyfer gwneud hyn, yn ôl y Pwyllgor.
Mae'r adroddiad yn nodi y dylai cynigion newydd ar gyfer y canolfannau ymwelwyr fod wedi cael eu datblygu cyn i'r canolfannau gau, ac y dylid eu cyhoeddi nawr, a hynny ar fyrder.
'Trethdalwyr yn talu am gamgymeriadau'
Ym mis Hydref 2024, daeth i’r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi talu bil treth gwerth £19 miliwn a oedd yn ddyledus gan Cyfoeth Naturiol Cymru i Gyllid a Thollau EF. Rodd y mater hwn yn gysylltiedig â chamgymeriadau a wnaed o ran categoreiddio statws treth gweithwyr. Dywedodd y Pwyllgor fod y camgymeriadau hyn wedi tynnu sylw at fethiannau llywodraethu difrifol yn y sefydliad.
Mae'r adroddiad yn gresynu’r ffaith bod arian trethdalwyr wedi cael ei ddargyfeirio o wasanaethau rheng flaen i dalu am gamgymeriadau o'r fath.
Mae'r Pwyllgor yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru am sicrwydd bod prosesau goruchwylio gwell ar waith, ac yn nodi bod gwersi i'w dysgu drwy gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r helynt.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: “Mae’r penderfyniadau a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar yn peri cryn bryder ac yn codi cwestiynau ynghylch dyfodol stiwardiaeth amgylcheddol yng Nghymru. Drwy fabwysiadu goddefgarwch uwch o risg, mae Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perygl o anwybyddu digwyddiadau llygredd sydd, o bosibl, yn cael eu hystyried yn llai niweidiol ond sy’n dal i erydu iechyd ein hecosystemau a'n cymunedau.
“Daw dull gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru yn sgil blynyddoedd o gyllid annigonol ar gyfer y rheoleiddiwr, ac mae’r sefyllfa hon yn peri pryder difrifol. Mae’n gadael Cymru yn agored i niwed amgylcheddol, ac nid yw’n anrhydeddu'r gwerthoedd a ddylai fod yn greiddiol i gorff mor hanfodol.
“Yn ogystal, wrth gau canolfannau ymwelwyr – mannau sy’n cysylltu pobl â’n harddwch naturiol – mae’r corff fel petai’n cefnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'n annerbyniol nad oes cynllun nac amserlen gredadwy i ailagor y canolfannau hyn ar gael eto. Dylai’r corff fod wedi datblygu’r pethau hyn ymhell cyn cau’r canolfannau.”