Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cwestiynu’r gwaith craffu ar fesur i wella cynlluniau Prentisiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 30/03/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cwestiynu’r gwaith craffu ar fesur i wella cynlluniau Prentisiaeth yng Nghymru

Mae Aelodau o Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryder ynghylch y Mesur Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu.

Maent yn credu na wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru na Senedd y DU graffu’n llawn ar y cymalau Cymru’n unig yn y mesur.

Cyhoeddwyd mesur drafft ym mis Gorffennaf y llynedd, ond nid oedd yn cynnwys unrhyw gymalau ar gyfer Cymru.  Bydd y mesur ehangach yn:-         

- nodi safonau’r brentisiaeth yng Nghymru  

- awdurdodi cyrff i gyflwyno fframweithiau prentisiaeth   

- caniatáu cyflwyno tystysgrifau prentisiaeth          

- egluro ystyr a statws cytundebau prentisiaeth.            

Cododd y Pwyllgor gwestiynau ynghylch yr ymagwedd a fabwysiadwyd ar gyfer cynnwys y cymalau Cymreig hynny yn y mesur.  

“Rydym wedi nodi llwyddiant y rhaglen prentisiaethau yng Nghymru, ac wedi cymeradwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru am hynny, “ meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Fodd bynnag, roedd y broses ddeddfwriaethol i gynnwys y cymalau Cymreig mewn mesur pwysig y DU ymhell o fod yn dderbyniol ac nid oedd fawr o le i graffu’n drwyadl arno naill ai yn San Steffan neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”

Nododd y Pwyllgor bod Gweinidog Cymru wedi methu’r cyfle i alw ar i’r ddarpariaeth o bwerau i wneud mesurau gael ei rhoi i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y mesur.                         

Mynegwyd barn hefyd y dylai’r Gweinidog fod wedi chwarae mwy o ran yn ystod y cyfnod pwyllgor.

“Mae’n flin iawn gennym na wnaeth llywodraeth Cymru ddefnyddio’r cyfle hwn i geisio pwerau i wneud mesurau,” meddai Gareth Jones..

Mae’r pwyllgor hefyd am weld cysylltiadau cryfach rhwng prentisiaethau a Bagloriaeth Cymru, ac am i lywodraeth Cymru fynd i’r afael â phroblemau sy’n wynebu myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr a sicrhau bod prentisiaethau yn cael statws cyflogedig.

Dyma brif argymhellion y Pwyllgor:-           

  • Bod llywodraeth Cymru’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor  am y cynnydd a wnaed o ran alinio prentisiaethau gyda Bagloriaeth Cymru.                  

  • Bod llywodraeth Cymru’n mynd i’r afael â’r anghysonderau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn helpu cyflogeion o Gymru i gwblhau eu prentisiaethau’n llwyddiannus yn Lloegr.                                    

  • Bod llywodraeth Cymru’n lledaenu’r arferion gorau sy’n deillio o’r cynllun peilot prentisiaethau a rennir, yn eang drwy’r sector cyhoeddus  er mwyn annog mwy i gymryd rhan yn y fenter glodwiw hon.

  • Bod llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r CBI a’r TUC a phawb sy’n cynrychioli buddiannau'r cyflogwyr a’r cyflogeion er mwyn sicrhau bod statws cyflogwr yn cael ei roi ar waith yn llwyddiannus ar gyfer prentisiaethau.

  • Bod llywodraeth Cymru’n mabwysiadu ymagwedd fwy strategol tuag at ddeddfu, a fyddai’n ystyried y cyfleoedd a ddarperir gan bwerau i wneud mesurau a phwerau datganoledig ym mesurau’r DU.  Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell yn gryf y dylid mynd i’r afael â’r diffyg democrataidd a achoswyd trwy wyro oddi wrth weithdrefnau deddfwriaethol arferol ar gyfer cynnwys cymalau Cymreig ym mesurau’r DU, lle rhoddir ychydig neu ddim cyfle i graffu arnynt ar hyn o bryd.