Mae angen cymorth a chefnogaeth ar bobl sydd ar restrau aros y GIG yng Nghymru, a hynny ar fyrder, yn ôl argymhelliad allweddol gan Bwyllgor Iechyd y Senedd.
Heddiw, mae’r Pwyllgor yn lansio adroddiad sy’n amlinellu ei ganfyddiadau yn dilyn ymchwiliad i amseroedd aros yn y GIG a’r sefyllfa sy’n wynebu llawer o gleifion yng Nghymru.
Mae pobl o bob rhan o Gymru wedi rhoi tystiolaeth ofidus i’r Pwyllgor, gan rannu eu profiadau o aros am ddiagnosis, gofal a thriniaeth a’r effaith wirioneddol y mae hyn yn ei chael ar eu bywydau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef bod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros, a heddiw gwnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd gyfres o argymhellion i ymdrin â’r ôl-groniad a chefnogi pobl sy’n aros am driniaeth.
Er bod amseroedd aros wedi’u heffeithio’n fawr gan y pandemig, mae’r Pwyllgor yn glir bod yr ôl-groniad yn broblem ddifrifol cyn i COVID-19 daro’r gwasanaeth iechyd.
Y tu ôl i'r rhestrau aros a'r ystadegau mae straeon dirdynnol am brofiadau anodd pobl wrth iddynt aros am driniaeth a gofal. Mae aelodau'r Pwyllgor wedi clywed adroddiadau manwl am yr effaith y mae'r ôl-groniad yn ei chael ar unigolion a'u bywydau.
Wynebodd Jill Davies o Abertawe 4 blynedd o gamddiagnosis a chyfathrebu gwael â’r bwrdd iechyd, a arweiniodd at ddirywiad eithafol yn ansawdd ei bywyd ac iechyd meddwl gwael. Yn y pen draw, roedd yn teimlo nad oedd ganddi unrhyw ddewis ond teithio dramor i gael llawdriniaeth breifat.
Ar ôl y camddiagnosis a chyfathrebu gwael, dywedodd Jill wrth y Pwyllgor:
“Cefais wybod mai'r amser aros bryd hynny oedd 3 blynedd… neu, yn fwyaf tebygol, 5 mlynedd. Ar y pwynt hwn, (a dydw i ddim yn crio'n hawdd) dechreuais grio. Rwy'n 65 a dwi prin yn gallu cerdded nawr, felly sut bydda i erbyn i mi gael llawdriniaeth?
“Y teimlad ges i bryd hynny oedd eu bod nhw’n hapus i ’ngadael i am 3 blynedd a gadael i mi bydru yn y gornel.
"Dwi’n teimlo’n rhwystredig. Roedd y cyfathrebu’n ofnadwy – beth am osod trefn gyfathrebu hawdd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, ac efallai awgrymu rhai lleoedd ar gyfer cymorth, fel sefydliadau trydydd sector neu grwpiau cymorth?
“Dwi wedi arfer â chyfathrebu â phobl yn fy mywyd proffesiynol. Wnes i ddim cyrraedd unman pan wnes i roi cynnig arni. Roeddech chi'n teimlo eich bod wedi'ch gadael ar ôl, ac mae hynny'n mynd i fod yn broblem fawr i rai pobl. Rydych chi'n suddo'n raddol ychydig yn is bob tro, wedi'ch gadael mewn ansicrwydd llwyr."
Yn y pen draw, teithiodd Jill dramor, lle'r oedd triniaeth breifat yn rhatach, a chafodd lawdriniaeth lwyddiannus.
Cefnogaeth i'r rhai sy'n aros
Ym mis Ionawr 2022, roedd 688,836 o bobl yng Nghymru yn aros i ddechrau triniaeth. Mae hyn yn gynnydd o 51 y cant ers mis Mawrth 2020.
Yn ogystal â nodi sut y dylid ymdrin â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros, mae’r Pwyllgor yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod cynllun adfer COVID-19 Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi cleifion i ‘aros yn iach’.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl sy’n aros am ofal neu driniaeth o’r cymorth sydd ar gael iddynt gan wasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol amgen.
Yn ôl Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae’r sefyllfa sy’n wynebu’r bobl yng Nghymru y mae angen triniaeth a gofal arnynt yn dywyll. Roedd pobl eisoes yn aros yn rhy hir cyn y pandemig, ac er bod COVID-19 yn ddios wedi gwaethygu’r broblem, roedd angen mynd i’r afael â’r ôl-groniad yn y GIG yn barod ac mae angen cymorth a chyfathrebu rheolaidd ar bobl wrth iddynt aros.
“Mae 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ar restr aros am ddiagnosis neu driniaeth ar hyn o bryd. Mae’r ystadegyn hwnnw’n frawychus, gyda goblygiadau difrifol i berfformiad ein gwasanaeth iechyd a lefelau afiechyd yng Nghymru.
“Mae ein Pwyllgor wedi clywed y straeon dirdynnol y tu ôl i’r ystadegau. Dyma unigolion y mae eu bywydau beunyddiol—ac o bosibl bywydau eu teuluoedd, ffrindiau neu ofalwyr—wedi’u heffeithio gan oedi cyn cael diagnosis neu ofal. Mae pobl yn wynebu poen, trallod, anghysur a phryder a gall eu hanghenion ddod yn fwy cymhleth hefyd.
“Efallai y bydd cyflwr rhai pobl yn dirywio, gan olygu y bydd angen gofal acíwt neu ofal brys arnynt. Yn erbyn cefndir o gostau byw uwch, gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio neu y mae eu gwariant wedi cynyddu o ganlyniad i’w cyflwr wynebu ansicrwydd ariannol cynyddol. Efallai na fydd unigolion eraill yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau gofalu arferol.
“Nawr yw’r amser i weithredu ac nid dim ond geiriau. Rydym am weld ymateb i’r ôl-groniadau, gyda phobl sydd ar restrau aros yn cael eu trin â pharch ac yn cael gofal tra'u bod yn aros.
“Mae’n bryd ailosod ar ôl y pandemig, heb anelu at ddychwelyd i ble’r oeddem ym mis Mawrth 2020, ond yn hytrach edrych i’r dyfodol, gyda ffocws o’r newydd ar arloesi, ar drawsnewid gwasanaethau mewn ffordd wirioneddol a chynaliadwy, ac ar atal anghydraddoldebau iechyd a mynd i’r afael â nhw, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl.
“Mae ein hadroddiad heddiw yn cynnwys rhestr o argymhellion i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r problemau difrifol sy’n wynebu cleifion yng Nghymru.”
Mae’r Pwyllgor wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn cynnwys:
- rhyngweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol
- pwysigrwydd data wrth fynd i’r afael â’r ôl-groniad, a’r angen i fyrddau iechyd gydweithio’n fwy effeithiol
- anghydraddoldebau iechyd
- y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru
Darllenwch argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer mynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran rhestrau aros, ac ar gyfer cefnogi'r bobl sy’n aros.