Pwyllgor y Cynulliad i gyfarfod yn Wrecsam

Cyhoeddwyd 26/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor y Cynulliad i gyfarfod yn Wrecsam

Bydd Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei gyfarfod nesaf yn Wrecsam, ddydd Iau 3 Gorffennaf. Bydd y pwyllgor yn cyfarfod am 9.30am yn Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru.

Bydd y pwyllgor yn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad presennol i gam-drin domestig a bydd yn cynnal trafodaethau â Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Byrddau Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas Tai Hafan.

Yn dilyn y cyfarfod, bydd y pwyllgor hefyd yn ymweld â ?? er mwyn siarad â darparwyr gwasanaethau ynghylch y materion sy’n effeithio arnynt.

Dywedodd Janice Gregory, AC, Cadeirydd y pwyllgor: “Mae cam-drin domestig yn fater sy’n effeithio ar bobl o bob cefndir waeth beth yw eu rhyw, eu rhywioldeb, eu hil, eu hoed na’u cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae’r pwyllgor wedi ymrwymo i archwilio strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem, y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a’r mentrau a sefydlwyd i atal achosion o gam-drin domestig. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dysgu am y gweithgareddau sy’n digwydd yn lleol ledled Cymru fel y gallwn amlygu arfer gorau. Dyma pam rydym wedi ymrwymo i fynd â’r pwyllgor y tu allan i Gaerdydd a chynnal cyfarfodydd yn y cymunedau yr effeithir arnynt gan y mater hwn.“

Cynhelir y cyfarfod yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam rhwng 9.30am a 11.45pm.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor