Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar gyfer ei ymchwiliad i waith craffu ar is-ddeddfwriaeth
Mae’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth wedi lansio ymgynghoriad i geisio barn y cyhoedd ar baratoi a gwneud is-ddeddfwriaeth a rhoi pwerau dirprwyedig i Weinidogion Cymru mewn Mesurau’r DU.
Bydd yr ymchwiliad yn ymchwilio i sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ar hyn o bryd yn paratoi ac yn gwneud is-ddeddfwriaeth, a sut y caiff penderfyniadau eu gwneud o ran rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn Mesurau’r DU. Nod y pwyllgor yw gwneud argymhellion er mwyn sicrhau bod y Cynulliad a’r Pwyllgor yn gwneud gwaith craffu effeithiol yn y maes cyfraith hwn.
Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor : “Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’r Pwyllgor yn ystyried dros gant a hanner o offerynnau statudol ar ffurf rheoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae llawer o’r rhain yn weddol dechnegol neu yn ddiweddariadau arferol o ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli, ond mae rhai eraill yn cyflwyno dyletswyddau newydd neu’n rhoi cyfarwyddebau Ewropeaidd ar waith gyda goblygiadau arwyddocaol i’r rheiny yr effeithir arnynt ac maent yn deilwng o waith craffu mwy manwl. Gall y Pwyllgor erbyn hyn adrodd ar y mathau hyn o faterion polisi ond mae angen i ni roi ystyriaeth fanwl i’r ffordd orau o wneud hyn o ystyried nifer y rheoliadau sydd gennym i’w hystyried a’r amser byr sydd gennym i adrodd arnynt. Hoffem glywed barn pobl a sefydliadau sy’n cael eu heffeithio’n rheolaidd gan reoliadau yn ogystal â barn arbenigwyr academaidd yn y maes hwn."
Gall y Pwyllgor hefyd ystyried Mesurau’r DU sy’n rhoi pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru. Ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhoi pwerau deddfwriaethol i’r Cynulliad drwy Fesurau’r DU hefyd.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ymchwilio i sut y caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud a sut y gellir egluro goblygiadau Mesurau’r DU i Gymru.
Byddai’r Pwyllgor yn croesawu barn a thystiolaeth gan rai sydd â diddordeb, ar gwestiynau fel:
Pa mor effeithiol yw ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru â rhanddeiliaid o ran offerynnau statudol?
Pa mor effeithiol a thryloyw yw gweithdrefnau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trosi deddfwriaeth Ewropeaidd yn rheoliadau?
Beth yw eich barn am y gweithdrefnau sydd ar waith i egluro goblygiadau Mesurau’r DU ar feysydd o gymhwysedd datganoledig a phwerau Gweinidogion Cymru?
Beth yw eich barn am y modd y caiff penderfyniadau eu gwneud o ran rhoi pwerau dirprwyedig i Weinidogion Cymru, y gweithdrefnau perthnasol neu drosglwyddo pwerau fframwaith (pwerau i wneud Mesurau Cynulliad) o fewn Mesurau’r DU?
Mwy o wybodaeth ar yr ymwchiliad a'r galwad am dystiolaeth