“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen ar nyrsys cymunedol” – Dai Lloyd AC

Cyhoeddwyd 21/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/08/2019

Mae gwaith hanfodol nyrsys cymunedol wedi dod dan y chwyddwydr heddiw. Mae Aelodau’r Cynulliad wedi clywed gan nyrsys ar reng flaen y gwasanaeth iechyd bod morâl staff yn isel a bod pobl yn gadael y gwasanaeth oherwydd y straen a’r llwyth gwaith cynyddol.

Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi  adroddiad sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yng ngwaith hanfodol nyrsys cymunedol ledled Cymru.

Mae nyrsys cymunedol yn darparu gofal yng nghartrefi cleifion. Gall hyn gefnogi unigolion a’u teuluoedd i reoli eu hiechyd, osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty, galluogi cleifion i gael eu rhyddhau’n gynnar, a helpu i gynnal annibyniaeth. Mae’r gwasanaethau hyn yn debygol o ddod yn rhan gynyddol bwysig o weithlu’r GIG

Mae natur newidiol gofal iechyd a’r newid tuag at ddarparu mwy o ofal y tu allan i'r ysbyty yn golygu bod rôl nyrsys cymunedol wedi dod yn fwyfwy heriol. Mae'r Pwyllgor yn pryderu nad oes darlun cywir ar gael o’r gwasanaeth nyrsio cymunedol ledled Cymru.

Y ‘gwasanaeth anweladwy’

Mae’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw wedi’i lunio ar ôl ymchwiliad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon pan glywodd Aelodau’r Cynulliad dystiolaeth gan nyrsys cymunedol rheng flaen am yr heriau y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Cafodd y Pwyllgor fraw o glywed nyrsys cymunedol yn disgrifio eu gwaith fel y ‘gwasanaeth anweladwy’.

Clywodd Aelodau’r Cynulliad, er gwaethaf y cyfraniad cydnabyddedig y mae timau nyrsio cymunedol yn ei wneud i ddarparu gofal iechyd, mai ychydig sy’n hysbys am y gwasanaeth ‘anweladwy’ hwn. Nid oes darlun cywir – yn genedlaethol – o nifer y timau nyrsio na’u cymysgedd sgiliau, na nifer y cleifion sy’n cael gofal yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn debygol o gael effaith ar effeithiolrwydd cynllunio’r gweithlu. Mae diffyg gwybodaeth hefyd am nyrsys plant sy’n gweithio yn y gymuned. Mae nyrsio ardal yn wasanaeth sy’n canolbwyntio ar oedolion ar hyn o bryd.

Technoleg i wneud y gwaith

Un o'r pynciau mwyaf a godwyd gan y nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned yw eu hanallu i gael gafael ar y dechnoleg fwyaf priodol i’w galluogi i wneud eu gwaith yn effeithiol. Dywedodd hanner y nyrsys cymunedol a ymatebodd i'r Pwyllgor nad oedd ganddynt fynediad at ddyfais symudol. Roeddent yn dweud hefyd nad oedd gan lawer o’r ffonau symudol a ddarperir gan y cyflogwyr fynediad at galendr nac e-byst Office. 

Mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn annerbyniol bod llawer o nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned yn dibynnu ar systemau papur a thechnoleg sydd wedi dyddio.

Argymhellion

Mae'r Pwyllgor wedi darparu deg argymhelliad i Lywodraeth Cymru i gydnabod gwaith hanfodol nyrsys cymunedol ac atgyfnerthu’r gwasanaeth. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Deall lefelau staff a nifer y nyrsys cymunedol sy'n gweithio ledled y wlad ar hyn o bryd

  • Cynnydd Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynllun gweithredu nyrsys cymunedol ar gyfer gofal lliniarol

  • Y cyfleoedd hyfforddi i fwy o nyrsys ddod yn nyrsys cymunedol

  • Ymdrechion i hyrwyddo nyrsio cymunedol fel gyrfa ddeniadol

  • Buddsoddi mewn technoleg megis dyfeisiau symudol

Dywedodd Dai Lloyd AC, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:

“Rydym yn falch o'r gwaith mae nyrsys cymunedol yn ei wneud ledled y wlad, nhw yw arwyr di-glod y gwasanaeth iechyd. Rydym yn pryderu ar ôl clywed gan nyrsys bod morâl y staff yn isel a bod nyrsys, mewn rhai achosion, yn gadael y gwasanaeth o ganlyniad i straen a llwyth gwaith cynyddol.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar nyrsys cymunedol i wneud eu gwaith.

“Os ydym am gynorthwyo unigolion a’u teuluoedd i reoli eu hiechyd gartref, osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty, galluogi cleifion i gael eu rhyddhau’n gynnar a helpu i gynnal annibyniaeth pobl, mae arnom angen darlun clir o sefyllfa nyrsio cymunedol yng Nghymru ar hyn o bryd a buddsoddiad yn y gwasanaeth.

“Er mwyn i’r gwasanaeth wella a ffynnu, mae angen i ni sicrhau bod y lefelau staff yn briodol, bod y nyrsys yn cael y dechnoleg symudol angenrheidiol i wneud eu gwaith yn effeithiol ac yr ystyrir bod nyrsio cymunedol yn yrfa ddeniadol.

“Mae nyrsio cymunedol yn rhan allweddol o ddyfodol y GIG yng Nghymru ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar yr hyn y mae nyrsys rheng flaen yn ei ddweud wrthym a gweithio i weithredu’r argymhellion a nodwyd yn ein hadroddiad.”

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal (PDF, 1 MB)