Ty

Ty

Straen a blinder yn broblemau ar draws y sector cymorth tai

Cyhoeddwyd 15/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/05/2025

Mae staff sy'n cefnogi pobl agored i niwed i osgoi digartrefedd yn wynebu lefelau uchel o flinder a straen oherwydd y nifer anferthol o sefyllfaoedd argyfwng y maent yn delio â nhw, yn aml heb gefnogaeth gan wasanaethau fel yr heddlu a chymorth iechyd meddwl. 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd hefyd yn dweud bod llawer o staff sy’n cefnogi pobl agored i niwed i osgoi digartrefedd eu hunain mewn perygl o fod yn ddigartref. 

Straen yn y gwaith 

Mae'r Pwyllgor yn galw'r sefyllfa hon yn 'annerbyniol' ac yn dweud na ddylai’r gweithlu cymorth tai, sy'n galluogi pobl agored i niwed i fyw'n annibynnol, gael ei drin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  

Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn dweud bod staff yn y diwydiant yn wynebu straen a blinder difrifol gan fod yn rhaid iddynt ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth fel cynnig cyngor ar ddeddfwriaeth tai, lles, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. 

Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, “Mae staff sy’n gweithio yn y sector hwn yn gwneud gwaith anhygoel mewn amgylchiadau hynod heriol. Nid yw cefnogi pobl a allai fod â phroblemau cymhleth lluosog fel problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau yn dasg hawdd, ond fe wnaethom ni glywed fod llawer o staff bron â chyrraedd pen eu tennyn. 

“Mae straen a blinder yn broblemau cyffredin, gyda phroblemau recriwtio a chadw staff yn ychwanegu at yr heriau cynyddol sy'n wynebu'r sector. 

Methiant ariannu 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fwy o arian, gan ddweud y bydd hyn yn caniatáu i'r Cyflog Byw Go Iawn gael ei dalu i weithwyr cymorth tai. 

Ond dywedodd llawer o sefydliadau yn y sector wrth y Pwyllgor na fyddai'r arian ychwanegol hwn yn talu’r gost o roi’r Cyflog Byw Go Iawn i'w staff, ac y byddai effaith cyfraniadau uwch Yswiriant Gwladol yn cael effaith sylweddol ar eu cyllidebau, hyd yn oed i'r pwynt lle y gallai fod yn rhaid iddynt roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau. 

Mae'r Pwyllgor yn codi pryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi 'colli cysylltiad' am ddweud ei bod yn credu bod ei hymrwymiad ariannol yn ddigonol, ac y dylai ymrwymo i ymgysylltu mwy â darparwyr gwasanaethau cymorth tai ac awdurdodau lleol ar y mater hwn. 

Cydweithio ar draws sectorau 

Mae'r adroddiad yn amlinellu sut mae diffyg cyflenwad tai, yn ogystal â diffyg cydweithrediad rhwng gwahanol wasanaethau, yn golygu bod unigolion ag anghenion cymhleth yn aml yn cael eu gadael mewn tai anaddas am gyfnodau hir. 

Mae problemau gyda rhannu data rhwng gwahanol wasanaethau yn achos sylweddol o ran problemau o'r fath, ac er gwaethaf rhai enghreifftiau cadarnhaol yng Nghymru, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith o wella cydweithio rhwng sectorau. 

Aeth John Griffiths AS yn ei flaen i ddweud, “Mae’r adroddiad heddiw hefyd yn dangos bod diffyg cyfathrebu rhwng sefydliadau, gyda staff yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gwybodaeth gywir gan wasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, y gwasanaethau carchardai a’r gwasanaeth prawf, ymhlith eraill.   

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wrando ar ein hadroddiad ac ymrwymo i weithio gyda’r sector i wella pethau i’r staff a’r bobl sy’n ysgwyddo baich yr argyfwng tai.”  

Deddf digartrefedd newydd  

Yr wythnos nesaf, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil Digartrefedd, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau yng Nghymru ymestyn y cymorth tai maent yn ei gynnig.  

Mae'r Bil yn debygol o ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i gefnogaeth, a’i nod yw ei gwneud yn haws i bobl ddigartref ddod o hyd i gartrefi sefydlog a pharhaol. 

Dywedodd Debbie Thomas, Pennaeth Polisi Crisis Cymru, elusen digartrefedd, “Mae profi digartrefedd yn drawmatig. Mae diffyg cartref sefydlog yn cael effaith mawr ar bobl – yn cynnwys eu lles corfforol a meddyliol – ac mae hi’n hanfodol fod pobl medru cael mynediad at gefnogaeth. 

“Gyda nifer uchel o bobl yn wynebu digartrefedd yng Nghymru, mae’r adroddiad yn amlygu’r ffaith fod gwasanaethau, yn aml, ond medru delio gydag argyfyngau. 

“Wrth symud ymlaen, mae’n hollbwysig fod deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cynnig newid i'r drefn. Mae yna gyfle enfawr i wneud mwy i atal pobl rhag mynd yn ddigartref  yn y lle cyntaf ac i sicrhau fod gwasanaethau yn barod i weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol pan mae pobl yn profi digartrefedd.” 

 


Mwy am y stori hon

Housing support for vulnerable people Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Cymorth tai i bobl sy'n agored i niwed