Tarfu ar yr ystafell ddosbarth ac ymddygiad gwael yn cael ei normaleiddio mewn ysgolion

Cyhoeddwyd 22/11/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/11/2025

Mae ymddygiad gwael ac ymddygiad ymosodol mewn ysgolion a cholegau Cymru yn cael eu normaleiddio, gan adael llawer o bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau a ymyleiddiwyd, yn teimlo'n anniogel a heb gefnogaeth, yn ôl Senedd Ieuenctid Cymru. 

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae Pwyllgor Trosedd a Diogelwch Senedd Ieuenctid Cymru yn codi’r larwm ynghylch diogelwch disgyblion ac yn galw am newidiadau brys mewn ysgolion.  

Casglodd yr adroddiad, sy'n seiliedig ar leisiau bron i 2,000 o bobl ifanc yr ymgynghorwyd â nhw ledled Cymru, dystiolaeth helaeth o'r realiti sy'n wynebu disgyblion bob dydd. Mae'n canfod bod 40% o bobl ifanc wedi adrodd eu bod wedi gweld ymddygiad treisgar neu gamdriniol yn eu hysgol neu goleg, ond dim ond 19% oedd yn ei ystyried yn broblem, a dywedodd mwyafrif eu bod yn teimlo'n ddiogel lle maen nhw'n cael eu haddysg.  

Mae'r bwlch hwn, yn ôl y Pwyllgor, yn tynnu sylw at sut mae gweithredoedd ymosodol ac aflonyddgar wedi dod yn "norm", gyda llawer o fyfyrwyr yn barod i dderbyn amgylchiadau na ddylid eu goddef. 

Mae arolwg gweithlu diweddar gan Lywodraeth Cymru yn ategu'r profiadau hyn, gan ddatgelu bod dros 90% o'r ymatebwyr yn credu bod ymddygiadau aflonyddgar wedi cynyddu ers y pandemig. 

Grwpiau a ymyleiddiwyd mewn mwy o berygl 

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys tystiolaethau personol pryderus gan grwpiau a ymyleiddiwyd a gasglwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2025. 

Roedd ymatebwyr anabl yn sylweddol llawer mwy tebygol o ystyried bod ymddygiad treisgar neu gamdriniol ac ymddygiad rhywiol anniogel yn broblemau - hyd at 12% yn uwch na'r sampl cyffredinol. Roedd disgyblion LHDT+, yn enwedig y rhai oedd yn uniaethu fel traws neu’n rhyweddhylifol, yn nodi’n gyson eu bod yn teimlo’n llai diogel a’u bod yn cael eu cynnwys llai, gyda chyfraddau uwch o fwlio ac ymddygiad aflonyddgar.  

Disgrifiodd cyfranogwyr grwpiau ffocws o'r cefndiroedd hyn eu bod yn teimlo'n fwy agored i niwed ac yn aml yn cael eu targedu, gan nodi diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth ddigonol yn eu hysgolion. 

Thema sy'n codi dro ar ôl tro yn yr adroddiad yw methiant ysgolion i gydnabod ac ymateb i anghenion unigryw'r grwpiau hyn. Rhannodd pobl ifanc straeon am gael eu bwlio am eu gwahaniaethau, boed yn gysylltiedig ag anabledd, ethnigrwydd, neu gyfeiriadedd rhywiol.  

Mae'r Pwyllgor yn rhybuddio, heb gefnogaeth wedi'i theilwra ac ymrwymiad gwirioneddol i gynhwysiant, y bydd disgyblion a ymyleiddiwyd yn parhau i wynebu mwy o risgiau a rhwystrau i'w haddysg. 

Amser am lais cryfach i ddisgyblion 

Mae adroddiad y Pwyllgor heddiw hefyd yn galw ar arweinwyr ysgolion i wrando ar ddisgyblion a'u cynnwys yn fwy ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n llunio eu hamgylchedd addysgol. 

Dim ond 30% o ymatebwyr yr arolwg a'r grwpiau ffocws a ddywedodd eu bod wedi cyfrannu at benderfyniadau neu lunio polisïau ynghylch diogelwch yn eu hysgolion.  

Pwysleisiodd llawer o'r bobl ifanc hyn y byddai mwy o ymwneud â’r gwaith o lunio polisïau, gwersi a diwylliant yr ysgol yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ac yn gwella ymddygiad. 

Er bod rhai ysgolion yn well nag eraill am greu'r diwylliant cadarnhaol hwn, cytunodd y Pwyllgor fod lleisiau disgyblion yn fwy tebygol o gael eu hystyried po hynaf yr oeddent. Mae'r adroddiad heddiw yn dadlau bod angen llawer mwy o ffocws ar ddisgyblion iau rhwng 11-14 oed i feithrin yr arfer o gymryd rhan cyn gynted â phosibl.  

Darllenwch yr adroddiad yma.