Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ganlyniadau gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol am weld tystiolaeth o arbedion a gwerth am arian yn deillio o Wasanaeth Caffael Cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru.
Yn ystod ei ymchwiliad i gaffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori, canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi lleihau eu gwariant ar ymgynghorwyr allanol. Gwelwyd lleihad sylweddol mewn gwariant ar draws y sector cyhoeddus o £173 miliwn yn 2007-08 i £133 miliwn yn 2010-11.
Yn ystod yr un cyfnod, roedd gwariant Llywodraeth Cymru ar ymgynghorwyr wedi lleihau o £52 miliwn i £42 miliwn.
Croesawodd y Pwyllgor y lleihad hwn ond canfu hefyd fod diffyg tystiolaeth gan nifer o gyrff cyhoeddus i ddangos eu bod yn cyflawni gwerth am arian yn eu trefniadau ar gyfer cynllunio, cael a rheoli gwasanaethau ymgynghori.
Mae’r Pwyllgor yn pryderu am fethiannau o’r fath mewn adeg o gyfyngiadau ariannol llym i’r sector cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus a gaiff ei lansio ym mis Tachwedd. Y bwriad yw y bydd y Gwasanaeth yn:
“sefydlu ac yn rheoli contractau ar gyfer gwariant cyffredin a chyson ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn lleihau gwariant, gan ddileu dyblygu, a chan ddatblygu model caffael cynaliadwy a chynyddu effeithlonrwydd.”
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am weld adroddiad blynyddol ar effaith y Gwasanaeth a threfniadau monitro trylwyr i sicrhau ei fod yn cyflawni’r arbedion y disgwylir ganddo.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, “Mae gan ymgynghorwyr ran bwysig i’w chwarae mewn llywodraeth.
“Pan gânt eu rheoli yn effeithiol, gallant gynnig safbwyntiau newydd ynghylch materion a darparu’r sgiliau i ymateb yn ddynamig i heriau newydd.
“Ond mae gorddibyniaeth ar ymgynghorwyr yn gallu bod yn werth gwael iawn am arian ac atal sefydliad rhag datblygu ei staff ei hun.
“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod costau ymgynghori yn syrthio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ond mae’n parhau i bryderu fod cyrff cyhoeddus wedi profi cymaint o anhawster wrth ddangos gwerth am arian mewn perthynas â’r hyn a wariwyd ganddynt.
“Dyna pam yr ydym am weld canlyniadau gan y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus, gydag adroddiad blynyddol yn nodi’n glir pa arbedion a gyflawnwyd ac yn nodi effaith gadarnhaol y Gwasanaeth.
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wrth wella arferion caffael a gwneud arbedion caffael, gan gynnwys dadansoddi ei effaith wrth herio a rheoli’r galw am wasanaethau ymgynghori yn y Sector Cyhoeddus;
Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darpar ddefnyddwyr y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac yn cyflwyno trefniadau monitro cadarn er mwyn sicrhau bod yr arbedion posibl a ddisgwylir gan y Gwasanaeth yn cael eu cyflawni; a
Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau mai un o amcanion penodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yw sicrhau’r buddiannau mwyaf o wariant cyhoeddus yn y sector preifat yng Nghymru, fel rhan o’i amcanion ehangach i sicrhau’r gwerth mwyaf am arian cyhoeddus.