Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ragor o fanylder yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
18 Gorffennaf 2013
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ond mae wedi mynegi pryderon ynghylch a fydd yn gwireddu ei amcanion.
Cafodd y Bil ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, a'r bwriad yw y bydd yn rhoi rhagor o rym i bobl y mae angen gwasanaethau cymdeithasol a llesiant arnynt drwy roi rhagor o lais iddynt, ond hefyd drwy symleiddio ac integreiddio gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ledled Cymru.
Wrth gytuno â thystion a gyfrannodd at yr ymchwiliad, fod y Bil yn angenrheidiol, tynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylw at y diffyg manylder ynghylch elfennau allweddol o'r Bil a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu rhagor o fanylion ar gyfer cyfnodau nesaf y broses ddeddfu.
Un o bryderon y Pwyllgor oedd y diffyg gwybodaeth ynghylch y fframwaith cymhwyster cenedlaethol, sef y meini prawf a ddefnyddir i asesu anghenion yr unigolyn, ac roedd y Pwyllgor yn galw ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud datganiad polisi pwysig am y maes hwn fel y gallai'r Pwyllgor wneud gwaith craffu cadarn ar y rheoliadau drafft.
Roedd ansicrwydd hefyd ynghylch yr awgrym y byddai'r Bil yn niwtral o ran costau. Ni chanfu'r Pwyllgor unrhyw dystiolaeth i'w argyhoeddi o'r honiad hwn ond nododd y byddai maint a chymhlethdod y Bil yn ei gwneud yn anodd ei gostio'n gywir.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae hwn yn Fil arbennig o gymhleth ac eang sydd â'r potensial o gael effaith ar rai o aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
"Wrth dderbyn bod angen y ddeddfwriaeth hon, mae'r Pwyllgor yn mynegi pryderon sylweddol hefyd ynghylch y lefel o fanylder y credwn sy'n absennol o'r Bil ei hun yn ogystal â'r diffyg arweiniad ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni rhai o'r amcanion a fwriedir.
"Rydym yn annog y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ychwanegu'r manylder angenrheidiol hwn yn ystod camau pellach y broses ddeddfu fel y gall y Pwyllgor a'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu tro wneud y gwaith craffu trwyadl a chadarn sy'n angenrheidiol ar gyfer y Bil hwn.
Mae’r Pwyllgor yn gwneud 61 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
Cytunwn â barn tystion y dylai egwyddorion statudol gael eu cynnwys ar wyneb y Bil. Credwn y byddai egwyddorion o’r fath yn help i ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau ddeall ethos y Bil. Er ein bod yn derbyn bod Codau Ymarfer yn bwysig, credwn y byddai egwyddorion statudol ar wyneb y Bil yn help i greu fframwaith cyflawni yn erbyn Codau Ymarfer
Nodwn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i wneud datganiad polisi mawr ynglyn â chymhwystra ac rydym yn argymell ei bod yn ychwanegu datganiad llafar mewn Cyfarfod Llawn at hyn cyn diwedd Cyfnod 2. Mae cymhwysedd yn ganolog i lwyddiant y Bil ac rydym felly’n credu y dylai’r Pwyllgor hwn gael y cyfle i graffu’n drylwyr ar y rheoliadau cymhwysedd drafft gyda digon o amser i adolygu, holi’r Dirprwy Weinidog, a chyflwyno adroddiad ar y rheoliadau drafft fel Pwyllgor cyn i drafodion Cyfnod 3 gael eu cynnal yn gynnar yn 2014
Rydym wedi’n hargyhoeddi gan y dystiolaeth a gafwyd o blaid iechyd a gofal cymdeithasol cwbl integredig a chredwn y byddai Bil ar wahân ar ofal integredig, tebyg i’r drefn ddeddfwriaethol sy’n cael ei hystyried ar hyn o bryd yn yr Alban, yn cynnig gwell cyfle i ymdrin â’r rhwystrau rhag gweithio mewn modd integredig. Rydym yn argymell bod y Dirprwy Weinidog yn ystyried dod â Bil ar wahân gerbron ar y mater hwn.
Nid ydym yn fodlon â’r wybodaeth sydd wedi cael ei darparu ynglyn â chost lawn y Bil ac nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth i’n hargyhoeddi y bydd y Bil yn niwtral o ran cost yn y tymor hir. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol fod maint a chymhlethdod y Bil yn ei wneud yn hynod o anodd ei gostio. Rydym hefyd yn cydnabod pryderon tystion ynglyn â’r sialensiau sy’n wynebu cyllid sector cyhoeddus ar hyn o bryd ac y bydd hynny’n siapio’r cyd-destun y rhoddir y Bil hwn ar waith ynddo.
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rhagor o wybodaeth am y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)