Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn pryderu am gostau byw myfyrwyr

Cyhoeddwyd 15/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn pryderu am gostau byw myfyrwyr

15 Mai 2014

Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn pryderu am y straen y mae’n rhaid i fyfyrwyr ymdopi ag ef wrth reoli eu harian a’u hastudiaethau.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn gofyn i Lywodraeth Cymru fonitro’n agos nifer y myfyrwyr sy’n dewis byw gartref oherwydd pwysau ariannol, ac a yw costau byw yn peri mwy o bryder i fyfyrwyr na ffioedd dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yng Nghymru neu Loegr, ond cafodd y Pwyllgor wybod bod y wybodaeth am yr arian hwnnw’n anghyson. Drwy gynnal sgyrsiau ar y we gyda myfyrwyr ar ddwy ochr y ffin, dysgodd y Pwyllgor fod rhai wedi cael gwybodaeth anghyson am yr arian sydd ar gael iddynt, ac roedd eraill yn gweithio’n llawn amser tra roeddent yn astudio er mwyn cadw deupen llinyn ynghyd.

Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg o dros 1,300 o fyfyrwyr hefyd er mwyn clywed eu barn ar gynllun ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru, ac a oedd wedi dylanwadu ar eu dewis o ran Addysg Uwch.

Dywedodd dros dri chwarter o’r rhai a lenwodd yr arolwg fod y cynllun grantiau wedi’u hannog i wneud cais i brifysgol. Dywedodd bron dwy ran o dair na fyddent wedi gwneud cais, neu y byddent wedi bod yn llai tebygol o wneud cais, pe na bai cymorth ariannol ar gael.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, "Mae’r pwysau sy’n wynebu myfyrwyr pan fyddant yn ceisio astudio er mwyn datblygu eu dyfodol yn destun pryder mawr i’r Pwyllgor.

"Yn ystod y sgyrsiau ar y we, cawsom glywed o lygad y ffynnon pa mor anodd yw hi i fyfyrwyr ymdopi, gyda llawer ohonynt yn gwneud swyddi llawn amser, yn ogystal â mynd i ddarlithoedd, i gadw deupen llinyn ynghyd.

"Mae’r grantiau a gynigir gan Lywodraeth Cymru i dalu ffioedd dysgu yn amlwg yn hynod o fuddiol, fel y dengys ein gwaith ymchwil ni, ond mae hefyd yn amlwg bod pobl yn cael gwybodaeth anghyson am yr arian sydd ar gael iddynt.

"Mae’r Pwyllgor yn cydnabod i Lywodraeth Cymru ddechrau adolygiad annibynnol yn ddiweddar, o dan arweiniad Syr Ian Diamond, i ystyried materion o’r fath, gan gynnwys gwella mynediad i gyrsiau addysg uwch.

"Gobeithio y bydd ein canfyddiadau yn cyfrannu’n gadarnhaol at yr adolygiad hwnnw."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 26 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu model manylach ar ddyledion myfyrwyr yn gyffredinol a’r llyfr benthyciadau i fyfyrwyr er mwyn amcangyfrif goblygiadau hirdymor dyledion myfyrwyr;

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth o’r grant ffioedd dysgu yn gynharach (ym mlwyddyn 9, o leiaf) yn ystod addysg myfyrwyr. Dylid hefyd sicrhau cysondeb o ran sut y codir ymwybyddiaeth; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu gwaith ymchwil i ganfod a yw costau byw yn peri mwy o bryder i fyfyrwyr na chostau ffioedd dysgu.

Adroddiad: Cyllido Addysg Uwch

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i Addysg Uwch ar gael yma.