Un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhybuddio yn erbyn llaesu dwylo ar fater brechiadau’r frech goch

Cyhoeddwyd 16/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhybuddio yn erbyn llaesu dwylo ar fater brechiadau’r frech goch

16 Awst 2013

Mae un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhybuddio bod angen rhoi dwy ddos o frechiad y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) i tua 30,000 o blant yng Nghymru o hyd.

Daw’r cais mewn llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd, sy’n ystyried sut yr ymdriniwyd â’r achosion o’r frech goch yn Abertawe yn gynharach eleni.

Wrth nodi bod Llywodraeth Cymru, cyrff iechyd ac awdurdodau lleol wedi cymryd camau effeithiol a phendant yn ystod yr epidemig, mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen clir i osgoi unrhyw laesu dwylo rhwng y cyfresi o achosion a’i bod yn hanfodol bod pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd brechu yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela.

Clywodd y Pwyllgor fod y frech goch, clwy’r pennau a rwbela yn cael eu hystyried yn afiechydon o oes Fictoria ac nid yw llawer o bobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol ydynt. Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i benderfynu pa ddulliau yw’r rhai gorau i godi ymwybyddiaeth o’r angen i gael y brechiad MMR.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o gyflwyno ‘pasbort iechyd’ ar gyfer staff meddygol sydd ar y rheng flaen a fyddai’n rhoi manylion am ba frechiadau y maent wedi eu cael ac yn eu hannog i sicrhau eu bod wedi cael y brechiadau diweddaraf.

Mynegwyd pryderon am effeithiolrwydd systemau rhannu gwybodaeth yng Nghymru yn ystod y sesiynau tystiolaeth. Tynnwyd sylw at systemau TG anghydnaws ac awgrymodd tystiolaeth nad oedd gan weithwyr iechyd proffesiynol fynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am hanes brechiadau eu cleifion bob amser. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen gwneud mwy i wella’r modd y mae gwybodaeth yn cael ei thrin a chysylltedd TG.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Dangosodd yr achosion diweddar o’r frech goch y perygl o fod yn hunanfodlon ynglyn â’r angen i sicrhau a chynnal y cyfraddau uchaf o frechu ymhlith y cyhoedd.

“Mae hyn yn ein hatgoffa yn awr bod rhoi brechiadau i blant ifanc yn hollbwysig a bod angen gwneud pobl yn ymwybodol o’r canlyniadau posibl o beidio â’u cael.

“Er ein bod yn cymeradwyo’r camau positif a gymerodd Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwasanaethau iechyd eraill a chyrff sy’n bartneriaid unwaith y cafodd yr achosion eu cadarnhau, mae’r Pwyllgor yn bendant nad oes lle i fod yn hunanfodlon oherwydd bod y digwyddiad arbennig hwn bellach wedi cael ei reoli.

“Dywedwyd wrthym fod tua 30,000 o blant yng Nghymru y mae angen y ddwy ddos o’r brechiad MMR arnynt o hyd ac rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i’r afael â’r ystadegyn hwnnw ar frys.”