Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn galw am ddull gweithredu cadarn a chydgysylltiedig yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2015

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canfod bod nifer o heriau yn wynebu'r gwaith o fabwysiadu technolegau meddygol yng Nghymru.

Gwyddom eisoes fod technolegau newydd yn chwarae rôl bwysig wrth wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ac mae'r manteision yn cynnwys canlyniadau gwell i gleifion, clinigwyr a gofalwyr.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn dangos bod angen i Gymru sefydlu dull gweithredu strategol ar gyfer technolegau meddygol.  Clywodd y Pwyllgor fod technolegau'n cael eu cyflwyno oherwydd brwdfrydedd clinigwyr unigol mewn sawl achos, gan olygu bod y gwasanaethau a ddarperir gan fyrddau iechyd gwahanol yn amrywio.

Cred y Pwyllgor fod angen proses arfarnu fwy cadarn a thryloyw ar gyfer technolegau newydd, a byddai hynny'n sicrhau'r sylfaen sydd ei hangen ar gyfer dull gweithredu mwy effeithiol a chyson wrth gomisiynu technolegau newydd.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau:

  • Bod opsiynau'n cael eu datblygu ar gyfer system arfarnu technolegau meddygol i Gymru gyfan, er mwyn ymgymryd â swyddogaethau yng nghyswllt technolegau meddygol sy'n debyg i'r hyn y mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan yn ei wneud ym maes meddygaeth
  • Bod dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer comisiynu technolegau newydd yn cael ei fabwysiadu mewn achosion pan ddisgwylir i dechnolegau arfaethedig gael effaith fawr ar y gyllideb, pan fo angen i anghenion y boblogaeth ehangach gael eu diwallu, pan fo angen comisiynu gwasanaethau ar draws ffiniau byrddau iechyd a/neu phan fo potensial i gomisiynu triniaeth mewn mannau eraill o'r DU
  • Bod y defnydd o dechnolegau a argymhellir ledled Cymru, gan gynnwys y rhai a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), yn cael ei fesur fel rhan o broses archwilio ffurfiol
  • Bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod unrhyw system newydd ar gyfer arfarnu, gwerthuso a chomisiynu technolegau meddygol yn gwrando ar leisiau o ofal sylfaenol a gofal cymunedol
  • Bod arloesedd ac arfer gorau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol yn cael eu nodi a'u rhannu'n ehangach
  • bod staff y GIG yn gallu cael mynediad at hyfforddiant priodol ar y defnydd o dechnolegau newydd

Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell y dylai'r dull gweithredu a ddefnyddir ganolbwyntio ar flaenoriaethu buddsoddiad mewn technolegau newydd sy'n seiliedig ar  dystiolaeth, ochr yn ochr â rhaglen o ddadfuddsoddi mewn offer aneffeithiol sydd wedi dyddio. Daw'r Pwyllgor i'r casgliad y dylai unrhyw ddull gweithredu newydd sicrhau mynediad cyfartal i driniaethau priodol newydd i gleifion yng Nghymru.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Gwyddom eisoes fod technolegau newydd yn chwarae rôl bwysig wrth wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ac mae'r manteision yn cynnwys canlyniadau gwell i gleifion, clinigwyr a gofalwyr.  Gwyddom y gall defnyddio technolegau arwain at driniaethau mwy effeithlon ac effeithiol, mynediad mwy cyfartal i wasanaethau a gofal a ddarperir yn nes at gartrefi unigolion, neu yn eu cartrefi.

"Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi canfod bod angen dull gweithredu mwy strategol a chydgysylltiedig wrth fabwysiadu technolegau iechyd newydd yng Nghymru. O ganlyniad, mae ein hadroddiad yn argymell y dylai'r Gweinidog ystyried creu corff Cymru gyfan i arfarnu a blaenoriaethu technolegau newydd.

"Credwn fod yr argymhelliad hwn, a'r rhai eraill a wneir yn ein hadroddiad, yn gosod y sylfaen ar gyfer system well o fabwysiadu technolegau meddygol yng Nghymru."

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru