Y Pwyllgor Cyllid yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu partneriaethau gyda’r sector preifat ac i gryfhau sgiliau’r sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd 25/09/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyllid yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu partneriaethau gyda’r sector preifat ac i gryfhau sgiliau’r sector cyhoeddus.  

Mae Cymru’n wynebu her sylweddol er mwyn sicrhau digon o fuddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol, ac mae angen datblygu partneriaethau gyda’r sector preifat. Rhaid i Gymru hefyd gryfhau’r sgiliau sy’n bodoli er mwyn sefydlu a chynnal y partneriaethau hyn. Dyna gasgliadau adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad.   

Canfu’r pwyllgor fod y sector preifat yn aml yn fwy llwyddiannus na’r sector cyhoeddus wrth gwblhau prosiectau ar amser ac o fewn y gyllideb. Bydd datblygu partneriaethau gyda’r sector preifat yn ffactor pwysig wrth sicrhau’r buddsoddiad a’r gwasanaethau cyhoeddus modern y mae eu hangen ar Gymru.   

Fodd bynnag, mae’r adroddiad ar ran gyntaf Ymchwiliad y Pwyllgor i Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat yn cynnwys pryderon am y diffyg sgiliau cyffredinol ar gyfer trafod telerau a sefydlu a rheoli partneriaethau gyda’r sector preifat. Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sefydlu corff neu uned ganolog i hyrwyddo a chefnogi prosiectau partneriaeth gyda’r sector preifat ac i arwain y gwaith o ddatblygu manylebau prosiectau, trafod telerau contractau a monitro a rheoli perfformiad. Rhaid sicrhau hefyd bod anghenion y staff sy’n rhan o bartneriaethau o’r fath yn cael eu hystyried yn llawn.

Nododd yr Aelodau y dylai’r sector cyhoeddus allu rheoli’r prosiectau hyn cystal â’r sector preifat pe bai’n cael y cyfle a phe bai ganddo’r sgiliau i wneud hynny. Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu a chryfhau’r sgiliau hyn.    

Gwelodd y pwyllgor sawl arfer da mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac yn benodol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Roedd y rhain yn dangos y cyfleoedd sy’n bosibl yn sgil partneriaethau gyda’r sector preifat a’r math o wasanaethau cyhoeddus y gellir eu darparu i bobl Cymru.

Yn yr Alban, datblygwyd a chytunwyd ar ‘goncordat’ fel fframwaith ehangach sy’n cynnwys y telerau a’r amodau i staff newydd a staff sydd wedi cael eu trosglwyddo. Mae hyn wedi rhoi datganiad clir ynghylch pa staff a fyddai’n cael eu trosglwyddo i sefydliad arall fel rhan o brosiect partneriaeth, ynghyd â sicrwydd ynghylch telerau ac amodau’r staff. Argymhellir creu concordat tebyg yng Nghymru.

Meddai Angela Burns, cadeirydd y pwyllgor: “Mae Cymru’n wynebu sawl her sylweddol er mwyn sicrhau digon o fuddsoddiad cyfalaf mewn seilwaith dros y blynyddoedd nesaf. Mae gwir angen ailwampio ein seilwaith cyhoeddus er mwyn adeiladu a diweddaru ysgolion ac ysbytai a buddsoddi mewn amrywiaeth eang o asedau eraill. Fodd bynnag, mae arian o’r sector cyhoeddus ar gyfer buddsoddi yn brin iawn.“

“Ond mae termau fel cyllid preifat a Phartneriaethau Cyhoeddus-Preifat yn creu pryderon ym meddyliau pobl. Er enghraifft, a yw’r sector cyhoeddus yn cael gwir werth am arian ac a yw’r risgiau’n cael eu trosglwyddo’n briodol? Felly, penderfynodd y pwyllgor mai dyma fyddai pwnc ei ymchwiliad cyntaf. Gwahoddwyd pobl i gyflwyno tystiolaeth ynghylch yr hyn sydd wedi gweithio ac heb weithio, a’r gwersi sydd wedi’u dysgu. Clywsom safbwyntiau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat – yn ddatblygwyr, yn gyllidwyr, yn undebau llafur ac yn rheolwyr gwasanaethau yn y sector cyhoeddus.

“Yn adroddiad cyntaf yr ymchwiliad, mae’r pwyllgor yn cyflwyno ei gasgliadau rhagarweiniol am yr hyn y mae angen ei wneud os yw Cymru i elwa ar yr adnoddau a’r arbenigedd sydd gan y sector preifat i’w cynnig er budd y sector cyhoeddus. Yn rhan nesaf yr ymchwiliad, bwriad y pwyllgor yw edrych ar rai o’r dulliau gwahanol a llwyddiannus sydd wedi’u datblygu wrth greu partneriaethau rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda golwg ar ganfod ac argymell modelau y gellir eu defnyddio mewn achosion perthnasol.”