Adeilad swyddfa Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd

Adeilad swyddfa Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd

Y Senedd yn lansio canllawiau newydd i staff ar y menopos

Cyhoeddwyd 18/10/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Comisiwn y Senedd fydd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) ar y menopos a’r mislif.  

Heddiw, ar Ddiwrnod Menopos y Byd, cyhoeddodd y Senedd ei bod bellach yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw y DU o ran cefnogi staff sy’n mynd drwy’r menopos. 

Canfu arolwg BUPA fod bron i 900,000 o fenywod yn y DU wedi gadael eu swyddi oherwydd symptomau’r menopos, gan gynnwys pyliau poeth, teimlo’n benysgafn, methu cysgu a stiffrwydd yn y cyhyrau a’r cymalau. 

Bydd un mesur syml a fydd yn cael ei gyflwyno yn Senedd Cymru yn galluogi staff i ddewis desgiau yn seiliedig ar a ydynt am fod wrth ymyl rheiddiadur, ffenestr agored neu o dan system aerdymheru. Mae hyn yn caniatáu i bawb eistedd yn yr ardaloedd sydd fwyaf cyfforddus iddynt. 

Mae canllawiau newydd Senedd Cymru yn cynnig offer ymarferol i reolwyr a’r rhai sy’n chwilio am ragor o wybodaeth am y mislif neu’r peri/menopos. 

Dywedodd Joyce Watson AS, Comisiynydd Cydraddoldeb yn Senedd Cymru, “Rydym yn falch o gyhoeddi heddiw, ar Ddiwrnod Menopos y Byd, y bydd y Senedd yn mabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer pobl sy’n profi’r menopos.  

“Drwy fabwysiadu’r mesurau hyn, rydym yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobl sy’n profi’r peri-menopos neu’r menopos wrth i ni geisio gwneud ein gweithle mor gynhwysol â phosibl. Rydym am i’r Senedd fod yn rhywle lle mae unrhyw un sy’n profi’r menopos yn teimlo’n gyfforddus. 

“Rwy’n gobeithio bod y cyhoeddiad heddiw nid yn unig yn arwydd o’n hymrwymiad i fod mor gefnogol â phosibl i staff, ond hefyd yn ysbrydoli sefydliadau eraill yng Nghymru i ddilyn.”  

Dywedodd Anne Hayes, Cyfarwyddwr Sectorau BSI: “Mae ein hymchwil yn dangos bod menywod yng Nghymru ac ar draws y DU yn wynebu Ail Nenfwd Gwydr. Mewn llawer o achosion maent yn gadael y gweithlu’n gynnar ac nid o reidrwydd o ddewis personol.  

“Mae un rhan o bump (21 y cant) o fenywod yn y DU yn dweud bod ystyriaethau iechyd neu lesiant sy’n gysylltiedig â’r menopos yn rhwystr rhag parhau i weithio, ac mae bron i dri chwarter (72 y cant) yn dweud y dylid rhoi mwy o gefnogaeth i fenywod sy’n profi symptomau. Mae mwy na hanner (54 y cant) menywod y DU yn credu y byddai’n anodd codi materion yn ymwneud â’r menopos gyda chyflogwr, a byddai dros hanner yn anghyfforddus i wneud hynny (52 y cant). Gallwn gymryd camau i newid hyn. 

“Mae manteision enfawr i unigolion, sefydliadau a chymdeithas gyfan y gellir eu gwireddu os yw menywod yn cael eu cefnogi i aros yn y gweithlu am gyfnod hirach. Rydym yn falch bod y Senedd wedi mabwysiadu ein safon menopos yn y gweithle (BS 30416), sef y corff cyhoeddus cyntaf i wneud hynny yng Nghymru. Mae hwn yn gam ymlaen a all helpu cymdeithas i godi’r Ail Nenfwd Gwydr sy’n wynebu menywod yng Nghymru a thu hwnt.”