Ymchwiliad y Cynulliad i'r cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant cynhyrchu ffilm a theledu

Cyhoeddwyd 16/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bydd ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn archwilio pa mor effeithiol y mae cefnogaeth a chyllid y llywodraeth wedi bod ar gyfer cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn edrych ar yr effaith ddiwylliannol ac economaidd yn ogystal â gwerth am arian o ran y Gyllideb Buddsoddiad Cyfryngau gwerth £30 miliwn, a neilltuwyd i ddenu stiwdios a chynhyrchwyr mawr i weithio yng Nghymru.

Ers 1999, bu twf sylweddol yn y sector cynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru, ac ar draws y DU gyfan. Bu'r twf yn sylweddol gyflymach yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r DU. Fodd bynnag, mae'r sector yng Nghymru yn dal i fod yn llawer llai na'r gyfran ar sail poblogaeth o ran y sector yn y DU gyfan. (Rhwng 1999 a 2016, mae gwerth ychwanegol gros (GVA) y maes hwn wedi tyfu o 1.1 y cant o gyfanswm y DU i 1.8 y cant).  

Darperir arian o Gyllideb Buddsoddiad Cyfryngau Llywodraeth Cymru o dan amodau sy'n cynnwys bod o leiaf 50 y cant o'r cynhyrchiad yn cael ei saethu yng Nghymru, a rhaid gwario 40 y cant o'r gyllideb gynhyrchu islaw'r llinell yng Nghymru. Mae gwariant 'islaw'r llinell' yn golygu'r arian a gaiff ei wario ar gynhyrchu'r ffilm, yn hytrach na'r cyfeiriad creadigol (hynny yw, nid gwariant, er enghraifft, ar y sgriptiwr, y cynhyrchydd, y cyfarwyddwr a'r actorion).

Fodd bynnag, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn canfod a oes digon yn cael ei wneud i dyfu diwydiant ffilm domestig ac annog gwneuthurwyr ffilmiau i adrodd straeon am Gymru y gellir eu gwerthu ar draws y byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid hefyd ar gyfer nifer o stiwdios ffilm a theledu, gan gynnwys Wolf Studios a Pinewood Studios yng Nghaerdydd.

"Mae gan Gymru sector creadigol cyfoethog a bywiog ac mae twf cyson y buddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm a theledu mawr, ar yr wyneb, yn galonogol iawn," meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

"Harry Potter, Snow White and the Huntsman a Captain America, yw rhai o'r ffilmiau sydd wedi eu ffilmio o leiaf yn rhannol yng Nghymru, ac mae'n amlwg bod stiwdios mawr Hollywood a chwmnïau ffilmiau annibynnol llai yn gallu dod o hyd i'r lleoliadau, yr adnoddau a'r doniau sydd eu hangen arnynt i wireddu eu syniadau.

"Rydyn ni am wybod beth yw'r budd ehangach i Gymru, yn economaidd ac yn ddiwylliannol, ac a yw buddsoddiadau aml-filiwn Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian."

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 9 Ebrill 2018. Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu fynd i dudalennau gwe'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gyntaf.

Cylch gorchwyl llawn yr ymchwiliad yw:

  • Sicrhau eglurder ar nodau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru, a thryloywder ynghylch pam a sut y gwneir penderfyniadau yn y maes hwn;

  • Y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r diwydiannau ffilm a theledu yng Nghymru, gan gynnwys:

    • Effaith economaidd, a sut y caiff hon ei gwasgaru ledled Cymru;

    • Effaith ddiwylliannol, gan gynnwys y Gymraeg;

    • Gwerth am arian

  • Sut y gall Cynllun Gweithredu Economaidd newydd Llywodraeth Cymru effeithio ar gefnogaeth i'r sector.

  • Ymchwilio i sut mae Ffilm Cymru, Diwydiant Ffilm Prydain (BFI) ac eraill yn cefnogi'r sector, a sut y mae'r gwaith hwn yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

  • Y gefnogaeth a roddir i ddatblygu sgiliau a mynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant, a oes digon o ddata i fapio sgiliau sy'n bodoli eisoes.