Ymrwymiadau a dyletswyddau statudol polisi morol Llywodraeth Cymru mewn perygl os na chymerir camau brys

Cyhoeddwyd 22/01/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ymrwymiadau a dyletswyddau statudol polisi morol Llywodraeth Cymru mewn perygl os na chymerir camau brys

22 Ionawr 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi canfod, bedair blynedd ers cyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni’r cyfrifoldebau y mae’r Ddeddf hon wedi’u datganoli i Gymru – cyfrifoldebau a ddatganolwyd o San Steffan ar gais Llywodraeth Cymru.

Noda’r Pwyllgor mai canlyniadau hyn yw bod y gwaith o gyflawni ymrwymiadau polisi a dyletswyddau statudol Llywodraeth Cymru mewn perygl, ac mae perthynas Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid arfordirol a morol wedi’i niweidio.

Daeth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’r casgliad nad yw’r amgylchedd morol yng Nghymru wedi cael digon o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ac y bydd angen ystyried newid mewn blaenoriaeth ac adnoddau o’r daearol i’r morol os yw uchelgeisiau polisi Llywodraeth Cymru i gael eu gwireddu. Canfu’r Pwyllgor fod hyn o bryder mawr gan fod yr amgylchedd morol ac arforol yn cyfrannu £2.5 biliwn o ran CMC i economi Cymru.

Mae busnesau morol a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru wedi disgrifio hyn i’r Pwyllgor yn feddylfryd ‘a morol’, gyda pholisi morol yn ail neu’n drydedd ystyriaeth lunwyr polisi.

Er enghraifft, nid oedd unrhyw gyfeiriad at yr amgylchedd morol yn nau o ymgynghoriadau mwyaf arwyddocaol Llywodraeth Cymru ar bolisi amgylchedd naturiol.

Mae’r Pwyllgor yn adrodd bod diffyg cynlluniau gofodol morol yn creu ansicrwydd i randdeiliaid a phartneriaid cyflawni, ac er bod cyfran uchel o foroedd Cymru wedi’i dynodi ar gyfer ei gwarchod, mae’r statws amgylcheddol yn ansicr.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, “Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ddull ecosystemau, rhywbeth yr ydym ni fel Pwyllgor yn ei gefnogi, ond yn ôl tystiolaeth gyfredol nid yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr amgylchedd morol wrth ddatblygu polisïau allweddol i gyflawni hyn.

“Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld yr adroddiad hwn fel rhybudd. Mae wedi bod yn llawer rhy araf yn gweithredu Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir ac nid yw’r gwaith o reoli’r polisi morol wedi bod yn ddigon da, fel yr amlinellir gan bryder sylweddol gan y cyhoedd a welwyd ledled Cymru yn ystod yr ymgynghoriad diweddar ar Barthau Cadwraeth Morol.”

O ran cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Pan fo Llywodraeth Cymru yn gwneud cais am gyfrifoldebau datganoledig, mae’n rhaid iddi gymryd y dyletswyddau hynny o ddifrif. Yn anffodus, rydym wedi canfod bod Llywodraeth Cymru wedi methu â rhoi digon o flaenoriaeth i’r cyfrifoldebau hyn.

“Mae’n bosibl adfer y sefyllfa, ond mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym os yw am gyflawni ei hamcanion polisi heriol a chyflawni’r rhwymedigaethau Ewropeaidd y mae ganddi gyfrifoldeb drostynt.”

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i’r polisi morol yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.