Sioeau Haf 2026

Eich Senedd, yn gweithio i chi.

Rhwng mis Mai a mis Medi eleni, byddwn yn ymweld â digwyddiadau a chymunedau ledled Cymru i sgwrsio â chi am eich Senedd a beth mae ein gwaith yn ei olygu i chi a’ch ardal leol.

Dewch i gael sgwrs i glywed mwy am sut mae’r Senedd yn gweithio, pwy yw eich Aelodau, sut maen nhw’n eich cynrychioli chi a sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.

Digwyddiadau ar y gorwel

  • Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, o ddydd Llun 20 Gorffennaf i ddydd Iau 23 Gorffennaf 
  • Gwyl Fwyd Llambed, dydd Sadwrn 25 Gorffennaf
  • Yr Eisteddfod Genedlaethol, Llantwd, Ceredigion, o ddydd Sadwrn 1 Awst i ddydd Sadwrn 8 Awst
  • Sioe Dinbych a Fflint, ddydd Iau 20 Awst
  • Gwyl Fwyd y Fenni, dydd Sadwrn 19 Medi a dydd Sul 20 Medi