Dyma ddibenion y protocol hwn:
- amlinellu'r trefniadau arferol ar gyfer arddangos baneri;
- egluro’r drefn briodol petai cais i chwifio baner neu faneri gwadd penodol yn dod i law;
- egluro’r drefn ar gyfer hanner-gostwng baneri.
Dyma ddibenion y protocol hwn:
Mae gan y Senedd:
Mae’r baneri canlynol yn chwifio bob dydd oni bai bod trefniadau eraill wedi'u cytuno yn unol â'n protocol:
Mae yna rai trefniadau sefydledig ar gyfer amrywio’r baneri sy'n cael eu harddangos yn y Senedd. Amlinellir y rhain isod:
Diwrnodau blynyddol
Sefydlwyd cynsail gan y Senedd ar gyfer chwifio baneri penodol ar ddiwrnodau adnabyddedig blynyddol. Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, bydd y dyddiadau hyn yn parhau i gael eu cydnabod trwy’r protocol baneri. Mae Atodiad A yn nodi’r dyddiadau hyn.
Ymweliadau swyddogol
Sefydlwyd cynsail hefyd ar gyfer chwifio baneri penodol pan fydd y Senedd yn croesawu ymwelwyr penodol, gan gynnwys:
Mae’r baneri sydd i'w harddangos yn ystod ymweliadau swyddogol wedi’u nodi yn Atodiad B.
Mae gan y Swyddfa Breifat gymeradwyaeth y Llywydd i awdurdodi chwifio baneri ar gyfer diwrnodau blynyddol ac ymweliadau swyddogol.
Amgylchiadau eraill
Yn ôl disgresiwn y Llywydd, gellir arddangos baneri ar wahân i’r rheini a nodir yn Atodiad A.
Ar adegau o arwyddocâd cenedlaethol neu farwolaeth, yn ôl disgresiwn y Llywydd, gellir hanner gostwng baneri ar y diwrnod y cyhoeddir y farwolaeth, a/neu ar y diwrnod y mynegir y cyfnod o dawelwch neu gydymdeimlad yn y Cyfarfod Llawn a/neu ar ddiwrnod yr angladd. Gall amgylchiadau o’r fath gynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt:
Gellir caniatáu hanner gostwng baneri ar nifer o ddiwrnodau yn olynol yn ôl disgresiwn y Llywydd.
Ar adegau o alaru cenedlaethol, bydd baneri fel arfer yn cael eu hanner gostwng o ddiwrnod y farwolaeth tan fachlud haul ar ddiwrnod yr angladd. Dylid ystyried gwirio a yw’n gyson ag adrannau Gwasanaeth Sifil y DU a seneddau datganoledig y DU, er mwyn lliniaru risgiau i enw da.
Ar adegau o arwyddocâd cenedlaethol neu farwolaeth, gall y Llywydd alw am gyfnod o dawelwch yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl y digwyddiad, a gall wahodd teyrngedau a chydymdeimlad gan bartïon perthnasol yn ôl yr angen. O dan amgylchiadau o’r fath, gellir hanner gostwng pob un o faneri’r Senedd fel yr amlinellwyd uchod.
Rhoddir ystyriaeth o ran digwyddiadau rhyngwladol yn ôl disgresiwn y Llywydd. Gallai hyn olygu marwolaeth pennaeth gwladwriaeth dramor.
Dylai baneri sydd wedi’u hanner-gostwng fod ddwy ran o dair i fyny'r polyn, gydag o leiaf uchder y faner rhwng brig y faner a brig y polyn.
Ar achlysuron o ddathlu llwyddiant nodedig Cymru a/neu lle defnyddir y Senedd fel canolbwynt digwyddiad o arwyddocâd cenedlaethol, gall y Llywydd ofyn am wyro oddi wrth gyfluniad arferol y baneri.
Dylid cyfeirio ymholiadau am faneri a ddangosir yn y Senedd at cysylltu@senedd.cymru. Ymdrinnir â phob ymholiad a chais yn unol â’r protocol hwn. Bydd pob penderfyniad ynghylch chwifio baneri, oni nodir yn wahanol yn y protocol hwn, yn cael ei wneud gan y Llywydd.
Bydd baneri gwadd yn disodli baner y Senedd ei hun ar y prif bolion baner, er mai'r Llywydd sydd â’r gair olaf ynghylch hyn.
Rhaid i unrhyw faneri nad ydynt yn stoc y Senedd gael eu darparu gan y sefydliad neu’r unigolyn sydd wedi gwneud y cais. Mae darparwr y faner yn gyfrifol am sicrhau ei bod yn cael ei rhoi i’r Senedd ymlaen llaw, a’i bod yn cael ei chasglu’n brydlon. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod y faner a ddarperir o safon, ansawdd a maint tebyg i’r rheini sydd fel arfer yn cael eu harddangos. Rhaid i bob baner a ddangosir gan y Senedd fod yn lân, mewn cyflwr da ac o ansawdd cyson ar draws yr ystad. Os nad yw’r baneri a ddarperir yn bodloni’r gofynion hyn, gellid penderfynu peidio â'u chwifio.
Yn dibynnu ar arwyddocâd unrhyw fater penodol, gall digwyddiad neu drychineb cenedlaethol neu ryngwladol (y tu hwnt i alaru cenedlaethol neu ryngwladol) ofyn am arwyddion pellach o barch gan y Senedd.
|
Digwyddiad |
Dyddiad |
Baner |
|
Dydd Gŵyl Dewi |
1 Mawrth (ac am weddill wythnos y Senedd) |
Baner Dewi Sant (croes felen ar gefndir du) |
|
Diwrnod y Gymanwlad |
Ail ddydd Llun a dydd Mawrth ym mis Mawrth |
Baner y Gymanwlad |
|
Wythnos y Lluoedd Arfog |
Yr wythnos sy’n arwain at ddydd Sadwrn olaf mis Mehefin |
Baner y Lluoedd Arfog |
|
Diwrnod y Llynges Fasnachol |
Mae’r faner yn cael ei chwifio ar ddiwrnod swyddogol y Llynges Fasnachol, sef 3 Medi |
Y lluman “Duster” coch |
|
LHDT+ |
Mis Chwefror – Mis Hanes LHDT+
|
|
|
Diwrnod Glyndŵr |
16 Medi |
Baner Glyndŵr |
|
Visitor |
Flag |
|
British Royal family |
Royal standard – dependent on which Member of the Royal family is in attendance |
|
Parliament Speaker/Presiding Officer subject to Llywydd's approval |
National or provincial/regional flag – as appropriate |
|
Heads of state as invited by the Senedd National heads of state or government, subject to Llywydd's approval |
National flag |
|
Regional heads of state or government, subject to Llywydd's approval |
National or provincial/regional flag – as appropriate |