Archwiliwch yr adeilad gyda thywysydd, ymunwch â sgwrs neu ewch ar daith sain hunan dywysedig.
P'un a ydych chi'n chwilfrydig am wleidyddiaeth, pensaernïaeth, neu ddim ond yn chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu.
Sylwer, rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i ehangu'r Siambr (siambr drafod). Yn ystod y cyfnod hwn:
- Bydd oriel gyhoeddus y Siambr ar gau dros dro.
- Gall llwybrau teithiau newid.
- Disgwylir rhywfaint o sŵn o ganlyniad i’r gwaith adeiladu.