Mae nifer o deithiau a sgyrsiau ar gael yn y Senedd, sy’n cyfoethogi’r profiad o ymweld â’r sefydliad ac yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy amdano. Mae'r profiadau hyn yn ddewisol, ac maent ar gael yn rhad ac am ddim. Mae croeso i chi ymweld â’r Senedd yn annibynnol, a hynny heb archebu lle ar daith neu sgwrs.
Yn sgil y gwaith adeiladu sy’n digwydd yn Siambr y Senedd i baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd, ni fydd yr Oriel Gyhoeddus ar gael i ymwelwyr am gyfnod.
Bydd y Senedd ar agor drwy gydol y gwaith, gan gynnwys y mannau cyhoeddus, y caffi a’r arddangosfeydd. Fodd bynnag, bydd ein Teithiau Grŵp o amgylch y Senedd yn cael eu haddasu, gan y byddwn wedi ein cyfyngu i’r rhannau o’r adeilad sy’n agored i ni.
Mae teithiau sain hunan dywysedig a rhith-daith ar gael hefyd, ac nid oes angen archebu’r teithiau hyn ymlaen llaw.