06/07/2010 - Prif Gweinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Mehefin 2010 i’w hateb ar 06 Gorffennaf 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi Cymru. OAQ(3)3019(FM)

2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r polisïau i hybu ffyrdd gweithgar o fyw ar gyfer y rheini dros 50 oed. OAQ(3)3017(FM)

3. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod ysgolion Cymru’n amddiffyn plant a phobl ifanc rhag gwahaniaethu. OAQ(3)2997(FM)

4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiau cyllideb Llywodraeth y DU ar Gymru. OAQ(3)3005(FM)

5. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith datganiad cyllideb Llywodraeth y DU ar Gymru. OAQ(3)3000(FM)

6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio bysiau yng Nghymru. OAQ(3)2996(FM)

7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyllideb y DU ar Gymru. OAQ(3)2998(FM)

8. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Demensia. OAQ(3)3013(FM)

9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog egluro blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Canol De Cymru. OAQ(3)3016(FM)

10. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth cerbydau trên ychwanegol. OAQ(3)3011(FM)

11. Gareth Jones (Aberconwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o effaith datganiad cyllideb Canghellor y DU ar Gymru. OAQ(3)3004(FM)

12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Cynllun Achub Morgeisi yng Nghymru. OAQ(3)3020(FM)

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am warchod tirwedd Cymru. OAQ(3)3006(FM)

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd. OAQ(3)3014(FM) TYNNWYD YN ÔL

15. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella safonau addysg. OAQ(3)3003(FM)