Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Ebrill 2008 i’w hateb ar 09 Ebrill 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu triniaeth ar gyfer Clefyd Parkinson yng Nghymru. OAQ(3)0472(HSS)
2. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. OAQ(3)0448(HSS)
3. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i ofalwyr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0420(HSS)
4. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr adolygiad o dystiolaeth sy’n pennu lleoliad Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol arfaethedig Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent. OAQ(3)0419(HSS)
5. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen buddsoddi a gynlluniwyd ar gyfer Ysbyty’r Tywysog Siarl. OAQ(3)0441(HSS)
6. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer trin Clefyd Parkinson. OAQ(3)0473(HSS) TYNNWYD YN ÔL
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa fesurau newydd penodol neu fuddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cynnig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed. OAQ(3)0429(HSS)
8. Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. OAQ(3)0469(HSS)
9. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad y Cynllun Iechyd Gwledig. OAQ(3)0477(HSS) W
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am a yw ei Hadran yn casglu gwybodaeth am nifer y gwladolion tramor yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu. OAQ(3)0450(HSS)
11. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i roi sylw i’r lefelau uchel o feichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau yng Nghymru. OAQ(3)0458(HSS) Trosglwyddwyd i’w ateb
12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol y GIG yng Nghymru. OAQ(3)0418(HSS)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth niwrolawfeddygaeth yn y Gogledd. OAQ(3)0434(HSS)
14. Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am barcio ceir am ddim mewn ysbytai. OAQ(3)0446(HSS)
15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn darpariaeth ddeintyddol o fewn y Gwasanaeth Iechyd. OAQ(3)0477(HSS) W
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y datblygiadau i wella cyswllt trafnidiaeth rhwng y De a’r Gogledd. OAQ(3)0463(ECT)W
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau trafnidiaeth ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0430(ECT)
3. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gwneud yr A465 yn ffordd ddeuol. OAQ(3)0437(ECT)
4. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0458(ECT)
5. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am y ffigurau teithwyr ar gyfer y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd ers lansio’r gwasanaeth newydd. OAQ(3)0449(ECT)
6. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth wedi’i hintegreiddio’n llawn yng Nghymru. OAQ(3)0423(ECT)
7. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffigurau cyflogaeth diweddaraf ar gyfer y grŵp oedran dan 25 yng Nghasnewydd. OAQ(3)0436(ECT)
8. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi lleihau carbon wrth galon Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. OAQ(3)0472(ECT)
9. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw welliannau sydd yn yr arfaeth ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Caerdydd a Phont-y-pŵl. OAQ(3)0440(ECT)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i wella diogelwch teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0429(ECT)
11. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yn Rhondda Cynon Taf. OAQ(3)0447(ECT)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y gorsafoedd trên yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad digonol i bobl anabl. OAQ(3)0454(ECT)
13. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd ffordd osgoi Gartholwg. OAQ(3)0445(ECT) TYNNWYD YN ÔL
14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth i sir Gaerfyrddin a sir Benfro. OAQ(3)0467(ECT)
15. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ymestyn rheilffordd Glyn Ebwy i Abertyleri, Tref Glynebwy a Chasnewydd. OAQ(3)0462(ECT)